Mae gan UCAC amrediad o gategorïau aelodaeth, yn dibynnu ar faint o oriau’r wythnos rydych chi’n eu gweithio. Mae modd i chi ymaelodi yma neu cysylltwch â’r swyddfa am ragor o fanylion.
Aelodaeth am ddim!
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ar gyfer:
• Athrawon a darlithwyr dan hyfforddiant yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol
• Athrawon a darlithwyr sydd ar eu tymor cyntaf o addysgu wedi gadael y brifysgol
BLWYDDYN AM DDIM a'r flwyddyn olynol yn hanner pris!
Mae’r tâl aelodaeth am ddim am flwyddyn ac hanner pris y flwyddyn olynol i:
• Athrawon a darlithwyr yn ystod eu blwyddyn gyntaf o addysgu
• Athrawon sy’n dilyn y Cynllun Athrawon Graddedig sy’n hyfforddi yn y gweithle
Absenoldeb Mamolaeth/Mabwysiadu/Rhiant a Rennir – aelodaeth hanner pris!
Caiff athrawon sy’n talu eu tâl aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol, haneru eu taliadau misol yn ystod eu cyfnod o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu/rhiant a rennir - beth bynnag yw hyd yr absenoldeb hwnnw. Cofiwch hysbysu'r Brif Swyddfa os ydych ar fin cymryd absenoldeb o'r fath.
Categori aelodaeth | Tâl misol |
---|---|
Llawn Amser |
£17.00 (£204 y flwyddyn) |
0.7-0.9 |
£14.25 (£171 y flwyddyn) |
0.4-0.6 |
£11.50 (£138 y flwyddyn) |
0.3 neu lai |
£9.50 (£114 y flwyddyn) |
Blwyddyn galendr gyntaf
Hyfforddi yn y gweithle
Darpar ddarlithwyr Prifysgol
|
AM DDIM y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn yn HANNER PRIS |
Dan hyfforddiant | AM DDIM |