Cynhadledd Amgen UCAC 2021
Oherwydd sefyllfa'r pandemig, mae UCAC yn cynnal Cynhadledd Amgen ar-lein eleni ar gyfer ein holl aelodau. Bydd yn cynnwys nifer o sesiynau fydd yn ystyried lles staff a’r heriau sy’n ein hwynebu wrth i ni edrych i’r dyfodol.
Ymunwch gyda chyd-aelodau ar gyfer tair noson a drin a thrafod addysg.
Dydd Llun 19 Ebrill 2021 | 6- 7 o'r gloch
Covid a thu hwnt – Pwy sy’n poeni am eich lles?
Dr Hanna Hopwood Griffiths
Cyflwynydd Gwneud Bywyd yn Haws, BBC Radio Cymru a Darlithydd y Gymraeg yn Rhagoriaith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Aeron Rees
Pennaeth Cwricwlwm a Lles, Sir Gaerfyrddin
Bydd Angharad Jones a Sion Walker cyd swyddogion Aeron Rees yn ymuno gyda'r sesiwn ma hefyd.
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn isod:
https://tocyn.cymru/cy/event/d0a8a12f-c4ca-4eb3-aa04-4fe508fa67c2
_________________________________
Dydd Mawrth 20 Ebrill 2021 | 6 - 7 o'r gloch
Dysgu'n ddigidol – beth ydym wedi dysgu ers covid 19?
Dilwyn Owen
Pennaeth TGCh, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Peter Thomas
Ymgysylltiad Rhanddeiliaid Hwb Uwch
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn isod:
https://tocyn.cymru/cy/event/46b5b46e-8e57-4a76-8e1d-29f72fab3290
_________________________________
Dydd Mercher 21 Ebrill 2021 | 6 - 7 o'r gloch
Ai dyma’r amser i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru?
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn isod:
https://tocyn.cymru/cy/event/17539306-f774-4b14-b624-36495d52a5f1
__________________________________________________________________________
Cynhadledd Flynyddol UCAC 2020 - **wedi i'w ohirio**
27 - 28 Mawrth 2020 Gwesty Cwrt Bleddyn, Brynbuga, Sir Fynwy
Yn dilyn ystyriaeth ofalus rydym, mewn cydweithrediad â’r tîm Llywyddol, wedi dod i’r penderfyniad i ohirio Cynhadledd Flynyddol UCAC oedd i'w gynnal yng Nghwrt Bleddyn, Brynbuga ar 27-28 Mawrth 2020.
Mae lles ac iechyd ein haelodau, yn ogystal â’r sawl sy’n dod i gysylltiad â nhw, yn flaenoriaeth.
Yng nghyd-destun bygythiad parhaus coronafeirws, ac yn sgil y ffaith fod aelodau a chyfeillion yn mynychu’r Gynhadledd Flynyddol o bob cwr o Gymru, rydym o’r farn mai gohirio yw’r penderfyniad mwyaf cyfrifol.
Byddwn yn cysylltu maes o law o ran unrhyw drefniadau amgen.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad.
Dilwyn Roberts-Young
Ysgrifennydd Cyffredinol
Cynhadledd Flynyddol UCAC 2019
5 - 6 Ebrill 2019 Gwesty'r Metropole, Llandrindod
Cynhadledd Flynyddol UCAC 2018
20-21 Ebrill 2018 Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli
Siaradwyr gwadd 2018:
Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg
Bethan Stacey - Rheolwr Datblygiad Proffesiynol a Chyllid
Charlie Thomas - Pennaeth cangen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Vicky Glanville & Llinos Alun – Prosiect Sbectrwm - Hafan Cymru