Tâl ac Amodau Gwaith: Addysg Bellach
Contract Cenedlaethol ar gyfer Addysg Bellach
Dyma rai o fanteision y Contract Cenedlaethol:
- mae'n cynnig amddiffyniad sy'n rhwystro colegau unigol rhag gwaethygu'ch amodau gwaith
- mae'n rhoi hawl cytundebol i raddfa gyflog genedlaethol
- mae'n gwahardd contractau dim-oriau (zero-hours)
- mae'n rhoi'r hawl i gyflog byw i'r holl weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol wedi'i ddyddio'n ôl i 1 Awst 2013
Dogfennau perthnasol:
- Crynodeb o’r prif amodau gwaith yn y Contract Cenedlaethol (pdf)
- Y Cytundeb Llwyth Gwaith ar gyfer Darlithwyr (pdf): mae’r cytundeb hwn yn mynd i fanylder ynghylch oriau a llwyth gwaith darlithwyr yn benodol
- Y Cytundeb Gweithredu (Implementation Agreement) (pdf): hwn sy’n gosod y telerau ar gyfer rhoi’r Contract Cenedlaethol ar waith; bydd hawl gan Golegau i ddod â’r Contract i rym unrhyw bryd rhwng 1 Ionawr 2014 a 31 Awst 2016; bydd hawl gennych aros ar eich cytundeb presennol, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny, tan 31 Awst 2016
- Y Contract Cenedlaethol: mae gwahanol fersiynau o’r contract (A-J), yn dibynnu ar eich categori (rheolwr/darlithydd/staff cymorth busnes) ac ar eich patrwm gwaith (llawn amser/rhan amser/fesul awr); mae’r mwyafrif o’r darpariaethau yr un fath ym mhob fersiwn, ond mae gwahaniaethau, er enghraifft, ynghylch gwyliau; dim ond un o’r fersiynau fydd yn berthnasol i chi.
G. Cymorth Busnes Ffracsiynol Parhaol (pdf)
Cyflog Darlithwyr Addysg Bellach
Gweler isod raddfeydd cyflogau darlithwyr addysg bellach ers Awst 2013.
Mae’r trafodaethau am gyflog 2014-15 yn parhau a bydd UCAC yn cysylltu ag aelodau pan fydd y wybodaeth ar gael.
Hyfforddwr / Darlithydd cysylltiol |
Ers 1 Awst 2013 (£) |
1. | 18,588 |
2. | 19,707 |
3. | 20,892 |
4. | 21,936 |
Prif raddfa darlithwyr
1. | 21,936 |
2. | 23,530 |
3. | 25,421 |
4. | 27,384 |
5. | 29,541 |
6. | 31,868 |
Amrediad cyflog uwch
U1. | 34,571 |
U2. | 35,797 |
U3. | 37,121 |
Pwyntiau Rheolaethol Addysg Bellach (Cysyllter ag UCAC am wybodaeth am bwyntiau 15-38)
Pwynt 1 | 37,592 |
Pwynt 2 | 38,821 |
Pwynt 3 | 40,050 |
Pwynt 4 | 41,278 |
Pwynt 5 | 42,407 |
Pwynt 6 | 43,736 |
Pwynt 7 | 44,965 |
Pwynt 8 | 46,193 |
Pwynt 9 | 47,422 |
Pwynt 10 | 48,651 |
Pwynt 11 | 49,880 |
Pwynt 12 | 51,108 |
Pwynt 13 | 52,337 |
Pwynt 14 | 53,566 |
Perthynas gyda myfyrwyr
Mae’n bwysig i ddarlithwyr gadw perthynas broffesiynol gyda myfyrwyr. Pan fydd myfyrwyr dan 18 oed mae’r darlithwyr mewn sefyllfa o ofalu amdanynt ac o fod yn gyfrifol am eu diogelwch. Rhaid bod yn ofalus iawn rhag mynd yn or-gyfeillgar; gall ymddygiad o’r fath achosi problemau disgyblaeth yn ogystal â chael ei gamddehongli gan y myfyriwr.
Mae hi’n drosedd i berson sydd dros 18 oed gael perthynas rhywiol neu ymddwyn yn rhywiol gyda pherson sydd o dan 18 oed, os ydynt mewn sefyllfa o ymddiriedaeth (position of trust). Mae’r gosb am y drosedd o gamddefnyddio ymddiriedaeth (abuse of trust) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dedfryd estynedig – bydd modd ychwanegu cyfnod ar drwydded ar derfyn cyfnod mewn carchar. Os yw’r troseddwr dros 20 oed, bydd yn dod o dan ofyniad hysbysiad (requirement of notification) Deddf Troseddwyr Rhywiol 1997. Nid oes rhaid addysgu’r myfyrwyr yn uniongyrchol i fod mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Mae’n ddigonol i fod yn aelod o staff yn y coleg.
Telerau Cyflogaeth
Dylai pob un sy’n cychwyn o’r newydd mewn swydd darlithydd, neu sy’n cychwyn ar swydd newydd, ofyn i’w gyflogwr beth yw’r telerau cyflogaeth a derbyn cytundeb ysgrifenedig yn nodi’r oriau, telerau a hyd y cytundeb cyn cychwyn yn y swydd.
Pensiwn Darlithwyr Addysg Bellach
Mae’n hanfodol bwysig, beth bynnag eich oedran, i gynllunio ar gyfer eich pensiwn. Mae UCAC yn argymell ystyried opsiynau pensiwn yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol ar y mater.
Mae rhai darlithwyr addysg bellach yn perthyn i’r Cynllun Pensiwn Athrawon (TPS) ac eraill i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS).
Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno newidiadau i’r Cynllun Pensiwn Athrawon a Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan gynnwys cyflwyno newid i’r Oed Pensiwn Arferol i gyd-fynd gyda’r Oed Pensiwn Gwladol.
Am fanylion pellach am y cynlluniau pensiwn hyn ewch i’r gwefannau canlynol:
Cofiwch gysylltu ag UCAC os dymunwch dderbyn unrhyw wybodaeth neu gyngor pellach am dâl ac amodau gwaith.