Tâl ac Amodau Gwaith: Athrawon
Mae Llywodraeth San Steffan, sydd yn gyfrifol am benderfyniadau am gyflogau athrawon, wedi derbyn argymhellion y School Teachers' Review Body ar gyfer 2017-18 ac mae'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2017 (y Ddogfen) yn amlinellu'r isafswm ac uchafswm ar gyfer yr ystodau cyflog a lwfansau amrywiol. Bydd copi Cymraeg o'r Ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar 1 Medi a bydd ar gael ar:
Cliciwch yma i weld copi o gylchlythyr arbennig sydd yn amlinellu cyngor cyd undebol gan UCAC, ASCL, ATL, NAHT, NUT a Voice am sut i weithredu'r codiadau cyflog athrawon ar gyfer Medi 2017.
Anfonodd yr undebau addysg (UCAC, ASCL, ATL, NAHT, NUT A VOICE) lythyr ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol tros Addysg yn galw ar Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol yn nodi'n statudol y dylai pob athro dderbyn codiad cyflog, yn unol ag argymhellion yr STRB ar gyfer yr ystod cyflog perthnasol.
I weld copi o'r llythyr cyd-undebol yn llawn cliciwch yma.
Anfonodd UCAC lythyr yn uniongyrchol at yr Ysgrifennydd Gwladol yn atgyfernthu'r safbwynt cydundebol uchod gan nodi hefyd yr angen i fynd i'r afael â phroblemau recriwtio a chadw a dilyniant gyrfaol. Mae cydnabyddiaeth tâl yn ffactor allweddol sy'n cael effaith sylweddol ar y materion hyn. Nododd UCAC yn y llythyr bod angen mynd i'r afael â llwyth gwaith a'r gwahanol lefelau o atebolrwydd ond bod angen taclo cydnabyddiaeth tâl fel mater o flaenoriaeth.
I weld copi o llythyr UCAC yn llawn cliciwch yma.
I weld copi o gyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol ar gyflogau athrawon ar gyfer 2017-18, cliciwch yma.
Mae'r dogfennau isod oll yn ymwneud â chyflog ac amodau gwaith athrawon ysgol. Os ydych yn aelod o UCAC ac os oes gennych ymholiad penodol yngl?n â'ch cyflogaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Maes perthnasol.
Llyfr Bwrgwyn [PDF]
Polisi Cyflog Enghreifftiol UCAC [PDF]
Taflenni Gwybodaeth UCAC:
Amodau Gwaith Athrawon [PDF]