Tâl ac Amodau Gwaith Darlithwyr Addysg Uwch
Os oes gennych unrhyw amheuaeth yngl?n â’ch cyflog, cysylltwch â’ch cyflogwr; os oes anghydfod yngl?n â’ch cyflog neu’ch amodau gwaith cysylltwch ag UCAC a gallwn eich cynghori neu weithredu ar eich rhan.
1. Cyflog Darlithwyr Addysg Uwch
Dyma fanylion cyflog darlithwyr yn y sector Addysg Uwch ar gyfer Awst 2014.
Awst 2014-2015 (£)
1. | 13,953 | 27. | 28,695 |
2. | 14,257 | 28. | 29,552 |
3. | 14,631 | 29. | 30,434 |
4. | 14,959 | 30. | 31,342 |
5. | 15,356 | 31. | 32,277 |
6. | 15,765 | 32. | 33,242 |
7. | 16,131 | 33. | 34,233 |
8. | 16,577 | 34. | 35,256 |
9. | 17,039 | 35. | 36,309 |
10. | 17,528 | 36. | 37,394 |
11. | 18,031 | 37. | 38,511 |
12. | 18,549 | 38. | 39,685 |
13. | 19,083 | 39. | 40,847 |
14. | 19,632 | 40. | 42,067 |
15. | 20,198 | 41. | 43,325 |
16. | 20,781 | 42. | 44,620 |
17. | 21,391 | 43. | 45,954 |
18. | 22,029 | 44. | 47,328 |
19. | 22,685 | 45. | 48,743 |
20. | 23,386 | 46. | 50,200 |
21. | 24,057 | 47. | 51,702 |
22. | 24,775 | 48. | 53,248 |
23. | 25,513 | 49. | 54,841 |
24. | 26,274 | 50. | 56,482 |
25. | 27,057 | 51. | 58,172 |
26. | 27,864 |
2. Telerau Cyflogaeth
Dylai pob un sy’n cychwyn o’r newydd mewn swydd darlithydd, neu sy’n cychwyn ar swydd newydd, ofyn i’w gyflogwr beth yw’r telerau cyflogaeth a derbyn cytundeb ysgrifenedig yn nodi’r oriau, telerau a hyd y cytundeb cyn cychwyn yn y swydd.
3. Pensiwn Darlithwyr Addysg Uwch
Mae’n hanfodol bwysig, beth bynnag eich oedran, i gynllunio ar gyfer eich pensiwn. Mae UCAC yn argymell ystyried opsiynau pensiwn yn ofalus cyn dod i benderfyniad terfynol ar y mater.
Mae gan rai darlithwyr Addysg Uwch yr opsiwn o berthyn i Gynllun Pensiwn Athrawon (TPS) neu Gynllun Pensiwn USS (Universities Superannuation Scheme).
Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno newidiadau i’r Cynllun Pensiwn Athrawon gan gynnwys cyflwyno newid i’r Oed Pensiwn Arferol i gyd-fynd gyda’r Oed Pensiwn Gwladol.
O ran pensiwn darlithwyr Addysg Uwch mae’r cyflogwyr yn bwriadu cyflwyno newidiadau i’r cynllun pensiwn USS, gan gynnwys newidiadau i’r oed pensiwn arferol.
Am fanylion pellach am y cynlluniau pensiwn hyn ewch i’r gwefannau canlynol:
Cofiwch gysylltu ag UCAC os dymunwch dderbyn unrhyw wybodaeth neu gyngor pellach am dâl ac amodau gwaith.