Llywodraeth Cymru'n rhoi rôl arloesi i athrawon

5 Tachwedd 2015

Llywodraeth Cymru’n rhoi rôl arloesi i athrawon

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi enwau’r Ysgolion Arloesi a fydd yn dylanwadu ar siâp ein system addysg dros y blynyddoedd nesaf.
 
Yn ogystal â’r pwyslais ar greu cwricwlwm newydd sbon, mae’r Gweinidog wedi gofyn i ysgolion wneud argymhellion mewn dau faes arall yn sgil y newidiadau pellgyrhaeddol sydd ar y gweill.
 
Y ddau faes yw: anghenion o ran hyfforddiant proffesiynol i staff ysgol, a sut i gyflawni newid heb greu llwyth gwaith beichus.
 
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae cyfnod cyffrous iawn o’n blaenau ni, gyda’r cyfle i greu cwricwlwm gwirioneddol Gymreig sy’n ateb gofynion dysgwyr yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn falch bod y Gweinidog yn ymddiried yn y proffesiwn i arwain y ffordd o ran datblygu’r cwricwlwm newydd. 
 
“Mae UCAC yn rhoi croeso mawr yn ogystal i’r ffaith bod y Gweinidog wedi gofyn i ysgolion roi ystyriaeth i anghenion hyfforddiant ychwanegol a sut i osgoi creu llwyth gwaith ychwanegol diangen yn sgil y broses o newid sylfaenol ac uchelgeisiol sydd ar fin digwydd.
 
“Gobeithiwn y bydd y ffrydiau gwaith hyn yn cydredeg er mwyn creu cynllun gweithredu pwyllog a synhwyrol ar gyfer un o’r newidiadau pwysicaf mae ein system addysg wedi’i weld ers degawdau.”
 
Am ragor o fanylion, cysylltwch â Rebecca Williams ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..