Meddwlgarwch

10 Hydref 2019
 

Meddwlgarwch

Cefais y fraint yn ddiweddar o fynychu cyfarfod yn dwyn y teitl ‘Cymru: Gwlad ofalgar?’, oedd wedi ei drefnu ar gyfer pawb sy’n ymwneud ag addysg, er mwyn creu gweledigaeth a strategaeth fydd yn sicrhau effaith ymwybyddiaeth ofalgar yng Nghymru.
 
Roedd y grŵp wedi cyfarfod yn gynharach ym mis Mai er mwyn bwrw’r cwch yn ddyfnach i’r dŵr o ran iechyd a lles yn y byd addysg yma yng Nghymru.
 
Beth yw meddwlgarwch o fewn cyd-destun ysgol?
 
Meddwlgarwch yw dysgu i dalu sylw i’n profiadau wrth iddynt ddigwydd, a hynny gyda chwilfrydedd a derbyniad ac yn ystod y dydd cafwyd cyfle ardderchog i glywed fel roedd ymarferwyr amrywiol wedi dechrau ymgorffori meddwlgarwch yn eu hawdurdodau lleol, a’u hysgolion.
Roedd yn ddiddorol iawn i glywed ymateb o Awdurdod Addysg Sir Gâr, lle’r oedd dros 200 o staff wedi cael eu hyfforddi ar gwrs Meddwlgarwch chwe wythnos. Roedd yr Awdurdod wedi bod yn flaengar iawn yn eu cynlluniau hyfforddi ac roedd llawer o athrawon bellach yn gallu gweithredu a defnyddio’u harbenigedd wrth ddysgu disgyblion ar lawr y dosbarth.
 
Cafwyd ymateb clwstwr gan unigolyn arall. Roedd un pennaeth wedi defnyddio arian PDG Lac yn greadigol gan ei wario ar hyfforddi clwstwr o athrawon mewn cyrsiau meddwlgarwch. Drwy greu system hyfforddi clwstwr, roedd llawer o athrawon wedi cael eu hyfforddi, ac yn defnyddio eu harbenigedd yn y dosbarth.
 
Roedd un o’r rhai oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn siarad o safbwynt aelod o Uwch Dîm mewn ysgol uwchradd, ac roedd yr ysgol wedi sicrhau fod pob disgybl yn dilyn cwrs gorfodol mewn ymwybyddiaeth ofalgar yn yr Ysgol Iau. Roedd wedi cael effaith gadarnhaol iawn trwy’r ysgol.
 
Roedd pennaeth cynradd wedi trefnu fod staff ei hysgol yn cael eu hyfforddi, ac roedd y staff cyfan wedi dilyn cwrs oedd yn dwyn y teitl Paws b. Roedd hynny wedi cael effaith arwyddocaol ar awydd y plant i ddysgu yn yr ysgol. 
 
Wrth i’r cwricwlwm newydd symud ymlaen, yn sicr fe fydd lle amlwg iawn  i ymwybyddiaeth ofalgar yn y cwricwlwm Iechyd a Lles.
 
Julia James
Llywydd Cenedlaethol UCAC