Neges at aelodau UCAC sy’n athrawon cyflenwi/llanw

20 Mawrth 2020

Neges at aelodau UCAC sy’n athrawon cyflenwi/llanw

Mae’r cyfnod hwn yn un eithriadol o bryderus i bawb, ac yn arbennig felly i’r sawl sy’n poeni am ffynonellau incwm nawr bod ysgolion a cholegau yn cau.

Rydym mewn trafodaethau dyddiol gyda Llywodraeth Cymru am faterion yn ymwneud ag oblygiadau COVID-19 a threfniadau ysgolion dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Wrth aros am arweiniad cenedlaethol mae croeso i aelodau UCAC gysylltu gyda’n Swyddogion Maes i drafod eich sefyllfa bersonol. Os yn bosib, sicrhewch fod gennych unrhyw gytundeb gwaith wrthlaw.

Dyma rai materion rydyn ni’n ceisio sicrhau atebion iddyn nhw ar hyn o bryd:

  • Os oes trefniant sefydlog/cytundeb (h.y. cyfnod mamolaeth/salwch) mae angen sicrhau bod yr athrawon hynny’n cael eu talu
  • Beth yw’r trefniadau o ran sicrhau mynediad i athrawon cyflenwi/llanw at SSP, JSA, Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill?
  • Beth yw sefyllfa’r athrawon hynny sydd â chytundeb dim-oriau (zero hours) a/neu oedd wedi trefnu bod ganddynt waith dros y pythefnos nesaf 
  • A oes modd i Gyngor y Gweithlu Addysg rewi’r ffioedd aelodaeth i athrawon sy’n debygol o fod heb incwm
  • A fydd modd cael gwaith sefydlog – yn ddelfrydol drwy’r Awdurdodau Lleol – wrth i ysgolion agor at ‘bwrpas newydd’ i blant gweithwyr allweddol a phlant bregus?

Byddwn ni’n diweddaru aelodau cyn gynted â phosib.