Taith y Llywydd i bob cwr o Gymru!

18 Mai 2016

Taith y Llywydd i bob cwr o Gymru!

Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser mawr i gael y cyfle i ymweld ag aelodau mewn ysgolion ar draws Cymru eleni. Ym mhobman y mae’r aelodau yr un mor awyddus ag erioed i wneud eu gorau glas dros y disgyblion. 
Fel athro uwchradd, mae wedi bod yn brofiad newydd a diddorol i mi i weld athrawon wrth eu gwaith yn y sector cynradd hefyd. Gwir i ddweud fod athrawon mor brysur o ddydd i ddydd , y mae dod i gyfarfod a’r llywydd ond yn gallu digwydd am ryw ddeg munud bach cyflym yn ystod yr awr ginio, rhwng un dasg a’r dasg nesaf. Yr un yw gofidion pob athro, ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob sector addysg. 
 
Mae llwyth gwaith yn broblem enfawr, ac yn gwaethygu. Safoni, cymedroli, monitro, asesu - mae’r baich yn mynd yn ormod. Mae hyn oll ar ben gwaith arferol athro o baratoi a chynnal gwersi ac o addysgu bob disgybl yn unigol ac yn effeithiol. Rhaid i’r llywodraeth ddodi’r afael yn syth â’r broblem o lwyth gwaith. Fel arall, bydd nifer fawr o athrawon yn gadael y proffesiwn. Mae angen sgiliau a brwdfrydedd ein hathrawon ar Gymru.
 
Gareth Morgan (Llywydd Cenedlaethol UCAC 2015-16)