Trafodaethau gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

29 Medi 2016

Trafodaethau gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Dydd Mawrth 27 Medi, cafwyd y cyfarfod cyntaf rhwng swyddogion UCAC a  phrif swyddogion y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
 
Bu Efa Gruffudd Jones (Prif Weithredwr) a Dona Lewis (Cyfarwyddwr Systemau) yn trafod ystod eang o bynciau gyda Swyddog Polisi UCAC, Rebecca Williams.
 
Mae nifer o feysydd ble mae posibilrwydd o gydweithio a thrafodaethau posib – gan gynnwys gwella’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn cyrsiau Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol i Athrawon, a hybu sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg a blynyddoedd cynnar presennol. Bydd rhain yn elfennau hanfodol wrth i Lywodraeth Cymru weithio tuag at ei nod o sicrhau Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 
 
Yn ogystal â meysydd polisi fel yr uchod, mae UCAC yn cynrychioli llawer o Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Byddwn yn parhau i’w cefnogi nhw yn ystod y broses o ailstrwythuro yn sgil sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn cadw llygad ar ddatblygiadau mewn perthynas â thâl ac amodau gwaith nawr a dros y tymor hirach.
 
Edrychwn ymlaen at barhau â’r drafodaeth a’r cydweithio dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod y sector Cymraeg i Oedolion yn ffynnu.