Ymweliad gan Estyn

8 Mehefin 2017

Ymweliad gan Estyn

Mae adeg ymweliad gan Estyn a'r cyfnod yn arwain at arolwg yn gallu bod yn un anodd i athrawon.
 
Rydym yn derbyn nifer o ymholiadau'n holi beth sydd angen ei wneud a beth nad oes angen ei wneud o ran y disgwyliadau ar ein haelodau.
 
Ymhob trafodaeth, mae'r ardal 'Chwedlau am arolygu: wedi eu chwalu!' o wefan Estyn yn eithriadol o ddefnyddiol.
 
Nodwch arweiniad clir a diamwys megis:
  • nid oes rhaid i athrawon ysgrifennu cynllun gwers manwl ar gyfer pob gwers i’w roi i’r arolygydd
  • nid yw athrawon yn cael gradd ar gyfer pob gwers y mae’r arolygwyr yn ei harsylwi, ond byddant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol gydag arolygwyr