UCAC yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried dysgu o bell wythnos ola’ tymor

25 Tachwedd 2020 

Mae undeb addysg UCAC wedi ysgrifennu at Gweinidog Addysg heddiw i ofyn iddi ystyried pa opsiynau sydd ar gael i leihau’r risgiau o ddisgyblion a staff yn gorfod hunan-ynysu dros y Nadolig. Un opsiwn fyddai cau safleoedd ysgolion a cholegau addysg bellach ar ddydd Gwener 11 Rhagfyr gan sicrhau dysgu-o-bell ar gyfer wythnos ola’r tymor.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae aelodau UCAC wedi ymateb i holiadur dros y penwythnos â 75% o’r ymatebion o blaid dysgu-o-bell ar gyfer wythnos ola’r tymor cyn y Nadolig, er mwyn diogelu dysgwyr a staff.

“Byddai cau’r drysau ar yr 11eg yn golygu bod pythefnos clir, heb gyswllt rhwng disgyblion a staff cyn Diwrnod Nadolig, ac mi fyddai hynny’n helpu i leihau’r risg o bobl yn cael eu heintio neu gorfod hunan-ynysu dros y Nadolig.

“Mi fyddai’r drefn yma hefyd yn golygu na fyddai arweinwyr ysgolion a cholegau yn cael galwadau gan y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu yn ystod y gwyliau gan gynnwys Diwrnod Nadolig ei hun.

“Rydym am i bawb o gymunedau ysgolion a cholegau allu cynllunio ac edrych ymlaen at y Nadolig gymaint ag sy’n bosib yn y cyfnod anodd hwn. Rydym o’r farn y byddai’r cynnig hwn yn hwyluso hynny, gan sicrhau parhad y dysgu ar yr un pryd.

“Edrychwn ymlaen at ymateb buan gan Lywodraeth Cymru ar y mater.”