Angen eglurder cyn gynted â phosib

20 Ionawr 2021 

Mae UCAC yn croesawu datganiad Llywodraeth Cymru heddiw y bydd dysgwyr, yr haf yma, yn derbyn graddau a bennir gan eu hysgol neu goleg ar sail ystod o waith maent wedi’i gwblhau yn ystod eu cyrsiau TGAU, Uwch Gyfrannol neu Safon Uwch. Fodd bynnag, mae’r Undeb yn pryderu bod llawer o fanylion eto i’w pennu.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, “Graddau wedi’u pennu gan ysgolion a cholegau oedd yr unig benderfyniad oedd yn gwneud synnwyr bellach, felly rydyn ni’n croesawu’r datganiad. Bydd dileu’r gofyniad am unrhyw asesiadau allanol gorfodol yn rhyddhad o’r mwyaf i ddisgyblion ac i athrawon.

“Dylai’r drefn newydd ganiatáu mwy o amser ar gyfer parhau â’r dysgu, a pharatoi dysgwyr ar gyfer eu camau nesaf. Yn ogystal, mae’n dangos ymddiriedaeth ym mhroffesiynoldeb athrawon a’u hadnabyddiaeth o alluoedd disgyblion, ar sail ystod o dystiolaeth.

“O ran y mecanwaith, mae llawer o elfennau pwysig eto i’w pennu ac mi fydd athrawon am gael eglurder cyn gynted â phosib ar y fframwaith asesu a’r prosesau sicrhau ansawdd. Bydd hyn yn greiddiol i’r gwaith o osod systemau cadarn yn eu lle.

“Mae UCAC yn awyddus i weld trefniadau safoni allanol, rhwng ysgolion, yn rhan o’r drefn, er mwyn cryfhau hyder, cysondeb a hygrededd yn y graddau.”