Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol

12 Rhagfyr 2016

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gan ein bod yn cydnabod fod rhai problemau yn bodoli gyda’r trefniadau cyfredol mae UCAC yn croesawu cyflwyno Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol gan y Llywodraeth heddiw.
 
“Serch hynny mae rhai pryderon gennym fel Undeb yngl?n â’r Bil newydd,” meddai Ywain Myfyr, Swyddog Polisi gyda’r undeb.  “Credwn fod  angen  sicrwydd bydd y newidiadau’n cael eu hariannu’n ddigonol a bod modd  atal awdurdodau lleol rhag cwtogi ar gyllidebau Anghenion Dysgu Ychwanegol.
 
“Credwn  fod posibilrwydd y bydd y mesurau newydd o’u gweithredu yn ychwanegu’n sylweddol at lwyth gwaith Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhaid edrych yn ofalus ar y sefyllfa parthed Cydlynwyr a’u llwyth gwaith a chynllunio ar gyfer rheoli’r llwyth gwaith yn effeithiol.”
 
“Cred UCAC y dylai’r Bil gynnwys datganiad sy’n nodi’n glir y disgwyliadau o ran darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg - y ddarpariaeth addysgol yn ogystal â’r gallu i ymwneud â’r broses gyfan,” meddai Ywain. 
 
“ Ni ddylai darparu neu weinyddu’r broses yn y Gymraeg olygu oedi, na gwasanaeth israddol mewn unrhyw ffordd i’r defnyddiwr.”