Canllawiau Covid-19 ar gyfer Addysg Uwch

17 Mehefin 2020

Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau Covid-19 ar gyfer Addysg Uwch ac mae ar gael yma:

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-06/diogelu-cymru-canllawiau-covid-19-gyfer-addysg-uwch.pdf

Bydd nifer o faterion i chwi eu hystyried yng nghyd-destun y canllawiau ac rydym yn eich annog i ofyn am sicrwydd bod:

  • asesiadau risg priodol wedi’u cynnal a’u cyfathrebu’n effeithiol
  • trefniadau ynysu yn eu lle ac wedi’u cyfathrebu’n glir; (Tud. 8)
  • y gweithle’n cydymffurfio gyda’r disgwyliadau ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu; (Tud. 9)
  • gan y gweithle gyflenwad priodol o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE); (Tud. 20 - 22)
  • llwybrau clir o ran cyfathrebu unrhyw ymateb i gais am gefnogaeth/gymorth; (Tud. 10)
  • gweithle’n cydymffurfio gyda’r disgwyliadau o ran glanweithdra a hylendid; (Tud. 15 - 19)
  • gweithdrefnau clir mewn lle os oes achos tybiedig neu achos wedi ei gadarnhau o Covid-19; (Tud. 19)
  • trefniadau mewn lle i  fonitro’r disgwyliadau arnoch a’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â’r disgwyliadau hynny;
  • y sefydliad yn ymwybodol o unrhyw anghenion penodol sydd gennych o ran eich iechyd ac iechyd unrhyw rai y mae gennych gyfrifoldeb amdanynt (Tud. 13)
  • y sefydliad yn ymwybodol o unrhyw gyfrifoldebau gofal sydd gennych a allai effeithio ar eich patrwm gwaith

Os oes gyda chi unrhyw bryderon, sylwadau neu gwestiynau am faterion yn ymwneud â’ch gwaith mae croeso i chi gysylltu gyda ni.