Croesawu adroddiad yr OECD am addysg yng Nghymru

10 Ebrill 2014

Croesawu adroddiad yr OECD am addysg yng Nghymru

Mae UCAC wedi croesawu heddiw adroddiad yr OECD am addysg yng Nghymru.

Yn ôl Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, "Mae'r adroddiad yn beirniadu Llywodraeth Cymru am ddiffyg gweledigaeth a ddiffyg cynllunio strategol ym maes addysg. Mae'n gosod y bai yn glir wrth ddrws y Llywodraeth am gynllunio gwan ar gyfer gweithredu blaengareddau newydd, diffyg gweledigaeth ac eglurder hir dymor wrth lunio polisïau, am beidio darparu cefnogaeth addas a hyfforddiant i athrawon, ac am ddiffyg cynllunio'r gweithlu addysg, sydd wedi effeithio safonau. "

"Mae hyn yn adlewyrchu'r gofidiau difrifol y mae UCAC wedi eu codi dro ar ôl tro, ar ran aelodau, gan gynnwys y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno gormod o newidiadau yn rhy gyflym, a heb greu strwythur addas ar gyfer gwella ysgolion."
 
"Mae'r adroddiad yn cyfeirio at awyrgylch positif yn ein dosbarthiadau a pherthynas dda iawn rhwng athrawon a disgyblion sydd yn hybu dysgu, ond mae hefyd yn beirniadu diffyg statws a chydnabyddiaeth i athrawon yn genedlaethol yng Nghymru, sydd yn effeithio ar recriwtio. Mae'n rhaid stopio rhoi'r bai ar athrawon am bethau sydd tu hwnt i'w rheolaeth a chydnabod pwysigrwydd swydd athro ar gyfer dyfodol ein plant a phobl ifainc."
 
"Does dim dwywaith amdani mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn y cyfrifoldeb a'r her o ddatrys y problemau hyn.  Nid yw'n ddigonol i'r Gweinidog ddweud eu bod eisoes yn gwneud nifer o bethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Nid nawr yw'r amser i olchi dwylo o gyfrifoldeb.  Mae'n wir bod y Llywodraeth wedi cymryd camau bach ymlaen ond mae cymaint ar ôl i'w wneud."
 
Am fanylion pellach cysylltwch ag UCAC ar 01970 639950