02 Mawrth 2022
Ymateb Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg i’n gohebiaeth ar batrwm y diwrnod a'r flwyddyn ysgol.
16 Chwefror 2022
Cwestiynau’n codi am gymwysterau Cymraeg
Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Gymwysterau Cymru heddiw ynghylch newidiadau i gymwysterau Cymraeg, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC “Dim ond penawdau sydd wedi’u rhyddhau heddiw, heb fanylder ynghylch y penderfyniadau pwysig hyn. Deallwn y cyhoeddir yr adroddiad llawn ar 2 Mawrth ac edrychwn ymlaen at hynny. Yn y cyfamser, mae nifer fawr o gwestiynau o egwyddor, a chwestiynau ymarferol yn codi.
“Ar gyfer pob pwnc a maes yn y cwricwlwm, yr egwyddor sylfaenol yw bod disgyblion yn gwella ac yn datblygu yn barhaus, heb lithro am yn ôl. Nid ydym yn sicr yn sgil y wybodaeth a ryddhawyd heddiw, a fyddai disgybl sydd wedi cael addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a/neu sydd â’r Gymraeg ar yr aelwyd, ond sy’n mynychu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn sefyll y cymhwyster Iaith a Llenyddiaeth, neu’r TGAU Cymraeg sy’n amlwg yn cyfateb i Gymraeg Ail Iaith. Rhaid sefydlu’n gwbl glir a chadarn yr egwyddor, a’r trefniadau ymarferol, i sicrhau cynnydd parhaus, waeth pa ‘gategori’ o ysgol mae disgybl yn mynychu.
07 Chwefror 2022
Patrwm diwrnod a blwyddyn ysgol
O ganlyniad i’r drafodaeth ar lefel genedlaethol sy’n digwydd am batrwm diwrnod a blwyddyn ysgol, a’r holiadur sydd wedi ei anfon at staff ysgol gan Beaufort Research, mae UCAC wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn mynegi nifer o bryderon am y modd maent yn trafod y mater.
Mae copi o'r llythyr ar gael yma: Llythyr at Weinidog y Gymraeg ac Addysg
25 Ionawr 2022
UCAC yn croesawu camau gofalus tuag at newid mesurau Covid mewn ysgolion
Mewn ymateb i gyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AoS heddiw, dywedodd Rebecca Williams, Is-Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Rydym yn croesawu penderfyniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru i symud mewn modd gofalus a graddol tuag at addasu’r mesurau Covid sydd yn eu lle mewn ysgolion, a dychwelyd i’r fframwaith penderfyniadau lleol.
“Y flaenoriaeth ar draws y system addysg yw cadw dysgwyr a staff yn iach, ac yn yr ysgol, yn parhau gyda’r addysgu a’r dysgu. Mae parhau am y tro i wneud gorchuddion wyneb yn ofynnol yn elfen ganolog a chwbl rhesymol o’r strategaeth i wneud hynny.
“Mae’n debygol iawn y bydd penderfyniadau’n dychwelyd i’r lefel leol ar ôl hanner tymor, wedi’u seilio ar asesiadau risg mewn awdurdodau lleol ac ysgolion unigol.
“Nodwn yn ogystal y bwriad i barhau i gynnal cyfres arholiadau’r haf. Gobeithiwn y bydd hynny’n rhoi gymaint o sicrwydd ag sy’n bosib dan yr amgylchiadau presennol i ddisgyblion ac i staff.”
Nodiadau
- Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid ym mhob sector addysg yng Nghymru.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Rebecca Williams: 07787 572180 / Mae'r cyfeiriad e-bost yn cael ei warchod rhag spam bots. Mae angen alluogi Javascript i'w weld.