LLYTHYR UCAC AT YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS ADDYSG

Ebrill 2024 

Yn wyneb y digwyddiad yn Rhydaman yr wythnos ddiwethaf,  mae Llywydd Cenedlaethol UCAC wedi ysgrifennu llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mae'r llythyr yn canmol ymateb staff yr ysgol am eu proffesiynoldeb a'u dewrder wrth  ymateb i'r digwyddiad.  Mae e hefyd yn mynegi pryder fod trais ar gynnydd yn ein hysgolion a bod dirywiad amlwg o ran disgyblaeth mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Yn y llythyr mae UCAC yn galw am sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu galw ynghyd, er mwyn gallu ymateb i'r heriau presennol.   

Cliciwch yma i ddarllen y llythyr yn llawn.  

 

 

RHAI CYRSIAU DIDDOROL A DEFNYDDIOL (EDUCATION SUPPORT) 

 

EBRILL 2024 

Mae hi'n anodd credu bod tymor olaf y flwyddyn ysgol newydd ddechrau.   Er bod y tymhorau'n newid, mae rhai pethau yn aros yr un fath ac yn sicr mae'r angen i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles a gofalu am iechyd meddwl a lles ein cydweithwyr yn hynod o bwysig.  Mae gan Education Support nifer o gyrsiau a dosbarthiadau meistr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.  Byddai'n syniad bwrw golwg ar y rhestr isod.   Cliciwch ar y dolenni, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cyrsiau.  (Dylid nodi mai cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg yw'r cyrsiau hyn).  

GWYBODAETH SYDD WEDI DOD I LAW ODDI WRTH EDUCATION SUPPORT 

Mae ein dosbarthiadau meistr nesaf a ariennir bellach ar gael i'w harchebu ar ein gwefan – ond cliciwch ar y dolenni hyn nawr i gofrestru gan fod y nifer yn gyfyngedig.

 

STRWYTHUR Y FLWYDDYN YSGOL

Chwefror 2024 

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig ac mae iddo oblygiadau pellgyrhaeddol i bob un sydd yn ymwneud â byd addysg.  

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn beth yw eich barn am dri opsiwn: 

Opsiwn 1.
Cadw'r gwyliau ysgol fel y maent - wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau Pasg, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin a chwe wythnos o wyliau haf. 

Opsiwn 2.
Newid y calendr ysgol o fis Medi 2025 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf (gyda'r gwyliau'n dechrau ar 30 Gorffennaf 2026)

Yn yr opsiwn yma, byddai 1 wythnos o wyliau’r haf yn cael ei symud i dymor yr hydref a byddai gwyliau’r haf wythnos yn fyrrach. Byddai gwyliau’r gwanwyn yn cael eu symud i ffwrdd oddi wrth y Pasg. Byddai'r ddau ddiwrnod sy'n wyliau cyhoeddus adeg y Pasg (dydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg)  yn dal i fod yn ‘ddiwrnodau i ffwrdd’ o’r ysgol.

Opsiwn 3.
Calendr ysgol newydd ar gyfer y dyfodol
- Byddai'r newidiadau yn cael eu gwneud mewn dau gam

Cam 1 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf. 

(Mae opsiwn 3 cam 1 yr un fath ag Opsiwn 2) 

Cam 2 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pedair wythnos o wyliau haf. 

Yn ogystal â'r newidiadau uchod i'r gwyliau, mae'r Llywodraeth yn ystyried cael diwrnodau canlyniadau Safon Uwch a TGAU yn yr un wythnos yn ystod gwyliau'r haf ac yn holi eich barn am y cynnig hwnnw hefyd.  

Dyma'r patrwm a gynigir ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026

CYFNOD

DECHRAU           

DIWEDD

Tymor yr hydref 2025

Llun, 1 Medi

Gwener, 19 Rhagfyr  (hanner tymor cyntaf yn 7 wythnos; ail hanner tymor yn 7 wythnos)

Hanner tymor yr hydref 2025

Llun, 20 Hydref

Gwener, 31 Hydref (bythefnos o wyliau hanner tymor)

Tymor y gwanwyn 2026

Llun, 5 Ionawr

Gwener, 3 Ebrill (hanner tymor cyntaf yn 6 wythnos; ail hanner tymor yn  6 wythnos)

Hanner tymor y gwanwyn 2026

Llun, 16 Chwefror

Gwener, 20 Chwefror (wythnos o wyliau hanner tymor)

Tymor yr haf  2026

Llun, 20 Ebrill

Mercher, 29 Gorffennaf (hanner tymor cyntaf yn 5 wythnos; ail hanner tymor yn 8 wythnos a 3 diwrnod)

Hanner tymor yr haf 2026

Llun 25 Mai

Gwener 29 Mai (wythnos o wyliau hanner tymor)

Beth yw eich barn chi am y mater?  Cofiwch fanteisio ar y cyfle i fynegi eich barn.  

Am wybodaeth bellach ac am wybod sut i ymateb, ewch i:

https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol

 

LLESIANT MEWN YSGOLION

Ionawr 2024
 

Blwyddyn Newydd Dda!  Wrth wynebu tymor newydd a blwyddyn newydd, mae’n bwysig cofio pa mor bwysig yw lles pawb o fewn yr ysgol.   Isod ceir dolen i becyn cymorth defnyddiol ar gyfer staff mewn ysgolion yng Nghymru.  Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllawiau ar faterion megis unigrwydd, meithrin perthnasoedd, gosod ffiniau, delio â gwahaniaeth.  Beth am glicio ar y ddolen, er mwyn gweld beth sydd ar gael? 

https://www.educationsupport.org.uk/croeso-i-r-pecyn-cymorth-llesiant-staff-ar-gyfer-staff-ysgol-yng-nghymru/pecyn-cymorth-llesiant-staff-ionawr-2024/

 

CYFLEOEDD DARPL

Rhagfyr 2023 

Mae DARPL yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ymarferwyr addysgol sy’n gwbl ymrwymedig i wrth-hiliaeth. 

Os oes gan rywun ddiddordeb yn y cyfleoedd hyn, dylent gysylltu â DARPL (Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.)

*Cyfle i uwch arweinydd/grŵp o uwch arweinwyr greu Adnoddau i Ysgolion – mae DARPL yn chwilio am uwch arweinydd/grŵp o uwch arweinwyr i greu dogfen ragarweiniol i ddogfen DARPL ‘Creu Diwylliant Gwrth-Hiliol mewn Ysgolion – Canllaw Ymarferol i Arweinwyr Ysgol yng Nghymru’

* Cyfle i unigolion gyfrannu at weithdai ar gyfer ysgolion – mae DARPL yn chwilio am ymarferwyr i gyflwyno mewn digwyddiadau DARPL gan sôn am ymarfer gwrth-hiliol ardderchog mewn ysgolion.  Gallai’r unigolion hyn ddod o’r trydydd sector neu o leoliad addysgol

*Cyfle i unigolion gyfrannu at weithdai ar gyfer addysg bellach - mae DARPL yn chwilio am ymarferwyr i gyflwyno mewn digwyddiadau DARPL gan sôn am ymarfer gwrth-hiliol ardderchog mewn lleoliadau addysg bellach.  Gallai’r unigolion hyn ddod o’r trydydd sector neu o addysg bellach

* Ymarferwyr addysgol – mae DARPL yn chwilio am ymarferwyr o’r Sector Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar, ysgolion ac addysg bellach i ymgymryd ag ymarfer myfyriol/creu adnoddau i arddangos yr arferion gwrth-hiliol gorau. Bydd y gwaith hwn yn digwydd rhwng Chwefror a Mehefin 2024 a bydd disgwyl i ymarferwyr rannu eu gwaith mewn digwyddiadau DARPL yn hwyrach y flwyddyn.  Dim ond staff sydd yn gweithio ar hyn o bryd o fewn lleoliad gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar, ysgolion ac addysg bellach all fanteisio ar y cyfle hwn.