ADNODD MATHEMATEG CYMRAEG NEWYDD
Gorffennaf 2026
Ym mis Medi eleni, lansir fersiwn Gymraeg o Sumdog, llwyfan mathemateg ar-lein a ddefnyddir gan lu o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru. Ar hyn o bryd, adnodd Saesneg yn unig yw Sumdog, ond mae'n braf gwybod y bydd pethau'n newid ym mis Medi.
Dyma fydd y ddarpariaeth gyntaf o'i bath i addasu i lefel pob disgybl, i gyd-fynd yn llawn â Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd Cwricwlwm i Gymru, ac i fod ar gael yn gyfan gwbl yn y Gymraeg.
Gan gofio fod gwella safonau rhifedd yn un o flaenoriaethau addysgol cyfredol Cymru, edrychwn ymlaen at weld yr adnodd cyfrwng Cymraeg hwn. Mae'r fersiwn Gymraeg yn cynnwys mwy na 200,000 o gwestiynau mathemateg a chynnwys cysylltiedig. Cafodd ei datblygu gan athrawon cyfrwng Cymraeg a'i sicrhau o ran ansawdd gan adolygydd iaith Gymraeg.
Byddai Rhidian James, Rheolwr Prosiect Cyfieithu Cymraeg Sumdog, yn croesawu'r cyfle i drafod yr adnodd, rhannu'r dystiolaeth a chlywed barn ymarferwyr ac ymgynghorwyr ar draws y sector addysg yng Nghymru.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr adnodd newydd hwn, neu os ydych yn awyddus i gofrestru eich diddordeb, ewch i:
https://learn.sumdog.com/en-gb/schools/curriculum-coverage/curriculum-for-wales-alignment