Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol - Rhan Amser (Dros Dro)

Ail-Hysbyseb – Cyfle i weithio’n hyblyg

Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol Rhan Amser (0.8)
Dros Dro (hyd at Ebrill 30ain, 2027)

Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.

Prif waith yr Swyddog Aelodaeth a Gweinyddol fydd:

  • arwain ar faterion aelodaeth yr undeb gan gadw rhestr aelodaeth gyfredol yr Undeb, adnabod anghenion a chyfleoedd recriwtio’r Undeb a bod yn weithredol yn y broses recriwtio
  • gweithredu fel Derbynnydd UCAC pan yn y Brif Swyddfa
  • cefnogi’r Uwch Swyddog Gweinyddol i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol i’r Undeb

Cyflog y swydd: £34,211 (pro- rata 4 diwrnod yr wythnos)

Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach isod. 

Dyddiad cau: Tachwedd 2il, 2026 am 1 yp

Cyfweliadau: Tachwedd 10fed, 2026

DISGRIFIAD SWYDD 

DISGRIFIAD PERSON

FFURFLEN GAIS

 

Swyddog Polisi

Swyddog Polisi - Llawn Amser

Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.

  • Prif waith y Swyddog Polisi fydd paratoi a chydlynu polisïau UCAC mewn cydweithrediad â’r Ysgrifennydd Cyffredinol ac o dan arweiniad y Cyngor Cenedlaethol a’r Gynhadledd Flynyddol
  • Hyrwyddo polisïau UCAC ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol

Cyflog cychwynnol y swydd: £49,820

Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach isod. 

Dyddiad cau: Tachwedd 2il, 2026 am 1yp

Cyfweliadau: Tachwedd 10fed, 2026

DISGRIFIAD SWYDD a MANYLEB PERSON

FFURFLEN GAIS