MANIFFESTO UCAC

Hydref 2025

Ym mis Mai 2026 byddwn yn pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru. Pa neges hoffech chi ei rhoi i wleidyddion Cymru? Mae UCAC wedi paratoi ei maniffesto ar gyfer yr etholiad.

Ein prif ddyheadau ni fel undeb ar gyfer addysg yng Nghymru yw:

UCHAFSWM ORIAU GWEITHIO WYTHNOSOL
Sicrhau bod ffiniau pendant i ddiwrnod gwaith addysgwyr

CYLLID YSGOLION
Sicrhau bod ein hysgolion yn cael eu cyllido'n deg, fel bod digon o staff a digon o adnoddau

AMODAU GWAITH
Sicrhau bod addysgwyr yn gallu canolbwyntio ar eu priod waith - addysgu plant a phobl ifanc

CYMRAEG
Sicrhau bod statws haeddiannol i'r Gymraeg a bod cyfleoedd realistig a gwerthfawr i hybu ac ehangu'r defnydd ohoni

Er mwyn darllen y maniffesto yn llawn, pwyswch ar y llun isod. 

BWRSARIAETH CADW ATHRAWON CYMRAEG MEWN ADDYSG

Medi 2025 

Ydych chi'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n addysgu Cymraeg fel pwnc mewn ysgol uwchradd? 

Efallai fod cyfle i chi dderbyn bwrsariaeth o £5,0000. 

Darllenwch isod i weld a ydych yn gymwys. 

BWRSARIAETH CADW ATHRAWON CYMRAEG MEWN ADDYSG

Pwy sy’n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth, rhaid i athrawon fodloni’r meini prawf craidd canlynol:

  • ennill statws athro cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen
  • wedi cwblhau 3 blynedd o addysgu yn dilyn dyfarniad SAC
  • wedi cychwyn ar 4edd flwyddyn o addysgu
  • wedi cwblhau naill ai 3 blynedd o addysgu Cymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir yng Nghymru neu unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir

Mae’r meini prawf yn berthnasol i athrawon llawn-amser a rhan-amser, lle bynnag y maent ar y raddfa gyflog athrawon a p’un ai eu bod yn cael lwfansau cyfrifoldebau ychwanegol neu beidio.

Nid yw athrawon mewn ysgolion annibynnol, colegau chweched dosbarth neu sefydliadau addysg bellach yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth.

Sut i wneud cais

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 1 Medi 2025 ac yn cau ar 30 Medi 2025.

I wneud cais, rhaid i athrawon lenwi’r ffurflen gais. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Mae’n rhaid i athrawon gyflwyno cais o fewn 2 flynedd o fod wedi cyrraedd y 3 blynedd angenrheidiol o wasanaeth.

Manylion talu

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £5,000 yn ystod eu 4edd flwyddyn o addysgu, gyda Llywodraeth Cymru yn talu’r holl gyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol. Nid yw’r fwrsariaeth yn bensiynadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru neu trwy gysylltu ag This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

 

 

 

GALWAD AM YMDDIRIEDOLWYR

Mai 2025

Mae UCAC yn cynrychioli athrawon,  darlithwyr ac arweinwyr addysg ym mhob cwr o Gymru.  

Rydym yn awyddus i benodi ymddiriedolwyr newydd i gyfrannu at lywodraethiant yr Undeb. Mae croeso i unrhyw aelod neu gyn-aelod fynegi diddordeb, a’r Cyngor Cenedlaethol fydd yn penodi’n derfynol. 

Prif rôl Ymddiriedolwyr UCAC yw llywodraethu a rheoli asedau’r Undeb:  

  • Gwarchod holl fuddsoddiadau’r Undeb, a derbyn cyngor gan yr ymgynghorwyr ariannol perthnasol
  • Bod yn gyfrifol am eiddo’r Undeb, gan sicrhau fod anghenion iechyd a diogelwch yn cael eu diwallu a sicrhau bod yr eiddo yn cael ei gadw’n safonol. 
  • Sicrhau bod Cynllun Pensiwn UCAC yn cael ei weinyddu’n effeithiol ac yn gywir gydag arweiniad arbenigwyr.

Mae’n gyfrifoldeb cyffredinol ar yr Ymddiriedolwyr i sicrhau gwytnwch yr Undeb a disgwylir iddynt gyfrannu at drafodaethau yn ymwneud â chyllid a datblygiad UCAC.

Disgwylir i Ymddiriedolwyr fod ar gael i gyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn. 

Disgwylir i ymddiriedolwyr wasanaethu am dymor o dair blynedd, ond mae modd gwasanaethu am sawl tymor yn ddilynol.  

Nid oes tâl i’r rôl hon, ond cynigir costau teithio. 

Os oes diddordeb gennych i ymgymryd â’r rôl, cysylltwch â Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. am sgwrs neu i fynegi diddordeb (erbyn Mehefin 30ain) gan roi crynodeb o’ch gyrfa ac amlinelliad yn egluro eich diddordeb. 

RECRIWTIO A CHADW ATHRAWON - HOLIADUR

Ebrill 2025 

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru yn cynnal ymchwiliad i Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru. Gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth i gwblhau'r arolwg hwn er mwyn iddynt allu casglu gwybodaeth werthfawr ynglŷn â sut mae recriwtio a chadw staff yn effeithio ar athrawon a disgyblion. 

Er mwyn llenwi'r holiadur, dilynwch y ddolen isod: 

 

Ymholiad Recriwtio a Chadw Athrawon

Os oes angen i chi dderbyn yr arolwg mewn fformat hygyrch, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL

Chwefror 2025 

Mae nifer o aelodau wedi cysylltu â ni yn mynegi pryder ynghylch amseriad cyflwyno’r cwrs TGAU newydd  Astudiaethau Crefyddol.  Mae’r cwrs TGAU newydd Hanes eisoes wedi ei ohirio am flwyddyn.  Penderfynwyd ar yr oedi hyn yn sgil pwysau o nifer o gyfeiriadau a gallwn eich sicrhau fod UCAC wedi bod yn rhan o’r pwyso hynny ar CBAC.  Yn yr un modd, rydym wedi bod yn cysylltu gyda CBAC am y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol ac wedi mynegi ein pryder fod nifer o ddogfennau a hyfforddiant allwedol wedi eu cyflwyno’n hwyr iawn, gan olygu mai prin iawn yw’r amser paratoi i athrawon.  Mae llythyr wedi ei anfon at swyddogion CBAC, gan gynnwys y Prif Weithredwr, yn erfyn arnynt i roi ystyriaeth ddifrifol i’n cais i ohirio cyflwyno’r cwrs newydd hwn.  Mae’n rhaid wrth amser digonol i athrawon allu paratoi, os ydym am i’r cyrsiau newydd yma lwyddo.  Byddai oedi yn fanteisiol i les athrawon a dysgwyr.