Diweddariad; Straen Newydd Covid-19 a gwybodaeth am warchod (shielding)

22 Rhagfyr 2020 

Rwy’n mawr obeithio eich bod yn cadw’n ddiogel ac iach ac yn cael rhywfaint o egwyl dros gyfnod yw ŵyl.

Mae rhai aelodau wedi cysylltu i fynegi pryder am fis Ionawr gydag ymddangosiad y straen newydd o Covid-19 ym mhob rhan o Gymru. Roeddwn am eich hysbysu y bydd UCAC yn cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y gwyliau ac yn ymateb i bob gohebiaeth ganddynt.

Yn ogystal rydym wedi derbyn datganiad ysgrifenedig heddiw gan Lywodraeth Cymru sy’n son am y rheini sydd yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol – sef y grŵp hwnnw o bobl a oedd yn gwarchod (shielding) yn flaenorol.  Mae’r cyngor yn nodi na ddylai’r unigolion yma fynychu safleoedd gwaith tu allan i’r cartref.

Mae’r datganiad ar gael yma: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyngor-newydd-ir-rhai-syn-eithriadol-o-agored-i-niwed-yn-glinigol-y-cynllun

Rydym yn ymrwymo’n llwyr i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol er lles ein haelodau ynghyd â holl staff ac disgyblion ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Cofiwch gysylltu os ydych am drafod eich pryderon ymhellach.