UCAC i gynnal pleidlais swyddogol ynghylch gweithredu diwydiannol

10 Hydref 2022 

Mewn cyfarfod ddydd Iau, 6 Hydref 2022 penderfynodd Cyngor Cenedlaethol UCAC fwrw ati i gynnal pleidlais swyddogol ymhlith aelodau’r Undeb i ganfod a ydynt am weithredu’n ddiwydiannol.  Bydd y bleidlais ar sail cynnig Llywodraeth Cymru i sicrhau codiad cyflog o 5% i athrawon a’r llwyth gwaith cynyddol sydd ar athrawon.   Mae’r Undeb yn galw am godiad cyflog nad yw’n is na’r gyfradd chwyddiant ac amodau gwaith teg. 

Dywedodd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC – “Rydym yn siomedig nad yw cynnig Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r gyfradd chwyddiant bresennol na chwaith yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein hathrawon.  Ar hyn o bryd, mae’r proffesiwn yn wynebu amodau gwaith sy’n fwyfwy heriol a hynny law yn llaw gyda chostau byw cynyddol.  Rydym yn wynebu heriau dirfawr o ran cadw athrawon yn y proffesiwn yn ogystal â sialensau wrth geisio recriwtio aelodau newydd.

Nid yw gweithredu’n ddiwydiannol yn benderfyniad hawdd i’n hathrawon sy’n poeni am les a llwyddiant eu disgyblion.  Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael y safon addysg orau, mae’n bwysig bod athrawon yn ennill cyflog teg a bod yr amodau gwaith yn rhai priodol.”