Asesu, Safoni, Cymedroli, Gwirio - UCAC yn taclo llwyth gwaith afresymol

29 Medi 2016

Asesu, Safoni, Cymedroli, Gwirio – UCAC yn taclo llwyth gwaith afresymol

Un o’r themâu a godwyd amlaf gan aelodau yng Nghynhadledd Flynyddol UCAC yn 2016 oedd y llwyth gwaith aruthrol a laniodd ar athrawon yn sgil gofynion prosesau asesu gwaith disgyblion, safoni, cymedroli a gwirio allanol.

Mae UCAC wedi bod yn casglu tystiolaeth a phrofiadau aelodau, ac wedi paratoi adroddiad sy’n tynnu’r prif bwyntiau ynghyd. 

Mae’r rheiny’n cynnwys camwybodaeth ddifrifol ynghylch faint o broffiliau dysgwyr oedd angen eu paratoi, faint o fanylder oedd ei angen, a’r gofyniad i baratoi popeth yn electronaidd ac ar bapur.
 
Cyflwynodd Mererid Lewis Davies, Swyddog Maes UCAC yn y De-ddwyrain yr adroddiad i banel sy’n ymwneud â’r broses Gwirio Allanol ar ddydd Gwener 23 Medi. Cawsant eu brawychu gan gynnwys yr adroddiad.
 
Trafodwyd yr un pwyntiau gan Dilwyn Roberts-Young, Swyddog Maes y Canolbarth a’r De-orllewin ac Is-ysgrifennydd Cyffredinol, mewn cyfarfod gyda chonsortiwm rhanbarthol ERW dydd Llun 26 Medi.
 
Yn sgil hyn, mae cyfarfod pellach wedi’i drefnu, fis nesaf, gydag uwch-swyddog sy’n goruchwylio’r broses Gwirio Allanol i drafod manylder profiadau aelodau. 
 
Byddwn yn rhannu’r adroddiad gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a'r consortia yn ogystal.
 
Ein bwriad yw sicrhau bod modd osgoi’r gofynion cwbl afresymol y flwyddyn nesaf ac mewn blynyddoedd i ddod.
 
Mae’r ymgyrch i leihau llwyth gwaith athrawon yn un o flaenoriaethau UCAC. Bydd yr ymgyrch yn parhau.