RECRIWTIO A CHADW ATHRAWON - HOLIADUR

Ebrill 2025 

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru yn cynnal ymchwiliad i Recriwtio a Chadw Athrawon yng Nghymru. Gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth i gwblhau'r arolwg hwn er mwyn iddynt allu casglu gwybodaeth werthfawr ynglŷn â sut mae recriwtio a chadw staff yn effeithio ar athrawon a disgyblion. 

Er mwyn llenwi'r holiadur, dilynwch y ddolen isod: 

 

Ymholiad Recriwtio a Chadw Athrawon

Os oes angen i chi dderbyn yr arolwg mewn fformat hygyrch, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

CYFLE I GYFRANNU AT BROSIECT

Ebrill 2025 

PROSIECT ADNABOD GEIRFA GRAIDD PLANT OEDRAN 7-11 OED 

 Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn comisiynu darn o waith ymchwil er mwyn adnabod geirfa graidd plant rhwng 7 ac 11 mlwydd oed. Y bwriad yw casglu geirfa y mae dysgwyr blwyddyn 3 hyd at flwyddyn 6 yn debygol o’u defnyddio’n rheolaidd ac sydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol ohonynt wrth iddyn nhw ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu hysgolion ac yn gymdeithasolMaent yn chwilio am grŵp cynrychioladol o athrawon i fod yn rhan o’r ymchwil hwn. Bydd tâl i bob unigolyn sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

 Ydych chi’n gweithio yn un o’r sectorau canlynol?

  • Athro mewn Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg
  • Athro mewn Ysgol Gynradd Dwy iaith/Iaith Ddeuol
  • Athro sydd yn gallu siarad Cymraeg hyd at lefel B1 Canolradd mewn Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg
  • Athro sy’n siarad Cymraeg mewn Ysgol Gynradd Ddwyieithog
  • Athro mewn Uned/Gwasanaeth Trochi Sector Cynradd
  • Athro yn y Sector Cynradd sydd wedi dilyn y Cynllun Sabothol
  • Uwch gymhorthydd (CALU/HLTA)
  • Athro bro/athro Sector Cynradd sy’n cefnogi’r Gymraeg

 Beth yw’r gofynion o ran amser?

 Bydd angen i chi roi 4 awr o’ch amser eich hun, y tu hwnt i oriau ysgol dros gyfnod o ddau ddiwrnod.

Cynhelir y ddwy sesiwn ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mercher , y 4ydd o Fehefin, 2025 4.30pm tan 6.30

Dydd Iau, y 5ed o Fehefin, 2025 4.30pm tan 6.30pm

 Noder bod rhaid i chi fynychu’r ddwy sesiwn a thelir  tâl o £150 am eich amser a’ch mewnbwn wedi’r ddwy sesiwn

 Beth sydd angen i chi wneud?

Bydd academyddion Prifysgol Abertawe yn eich arwain drwy’r sesiynau ar lein (Teams) ble bydd gofyn i chi feddwl am gasgliad o eiriau sy’n gysylltiedig â chategoriau penodol yng nghyd-destun bywyd plentyn e.e.

meddyliwch am 20 gair hanfodol y byddech yn eu cysylltu gyda’r categori chwarae.

Disgwylir i chi gyflwyno’r geiriau ar ffurf google form, yn y fan a’r lle cyn symud ymlaen at y categori nesaf. Ni fydd gwaith ychwanegol wedi’r cyfarfodydd ar lein a bydd cyfarwyddyd clir yn cael ei roi i chi i’ch arwain drwy’r dasg.

 Sut mae cofrestru?

 Os oes gennych ddiddordeb y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r google form isod yw dydd Llun 12fed o Fai, 2025.  Bydd rhaid i ni weithredu ar yr  egwyddor cyntaf i’r felin os ceir gormod o geisiadau.

 https://forms.gle/BTn3NCRSArdsmczs5 

 Cynhelir y sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL

Chwefror 2025 

Mae nifer o aelodau wedi cysylltu â ni yn mynegi pryder ynghylch amseriad cyflwyno’r cwrs TGAU newydd  Astudiaethau Crefyddol.  Mae’r cwrs TGAU newydd Hanes eisoes wedi ei ohirio am flwyddyn.  Penderfynwyd ar yr oedi hyn yn sgil pwysau o nifer o gyfeiriadau a gallwn eich sicrhau fod UCAC wedi bod yn rhan o’r pwyso hynny ar CBAC.  Yn yr un modd, rydym wedi bod yn cysylltu gyda CBAC am y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol ac wedi mynegi ein pryder fod nifer o ddogfennau a hyfforddiant allwedol wedi eu cyflwyno’n hwyr iawn, gan olygu mai prin iawn yw’r amser paratoi i athrawon.  Mae llythyr wedi ei anfon at swyddogion CBAC, gan gynnwys y Prif Weithredwr, yn erfyn arnynt i roi ystyriaeth ddifrifol i’n cais i ohirio cyflwyno’r cwrs newydd hwn.  Mae’n rhaid wrth amser digonol i athrawon allu paratoi, os ydym am i’r cyrsiau newydd yma lwyddo.  Byddai oedi yn fanteisiol i les athrawon a dysgwyr. 

DOSBARTHIADAU MEISTR EDUCATION SUPPORT

Ionawr 2025 

Mae gan Education Support ystod o ddosbarthiadau meistr llesiant rhyngweithiol a chyffrous i reolwyr ac arweinwyr ysgol.  Maent yn rhad ac am ddim, felly beth am gofrestru?

Dyma ychydig fwy o wybodaeth am y cyrsiau:

Mae’r dosbarth meistr hwn, ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr ysgol sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd yn edrych ar nifer o ddamcaniaethau/modelau ymarferol gan gynnwys y cylch galar a ddaw yn sgil diswyddo a’r gromlin newid. Bydd hefyd yn edrych ar sut i drin eraill yn deg, meddwl am effaith y broses, cynnig cefnogaeth briodol, yn rhoi ystyriaeth i faterion megis tôn llais, agwedd a thosturi ac yn rhoi sylw i’r ffordd y mae'r gyfraith yn ystyried gwaharddiadau.

Bydd y dosbarth meistr hwn, a gyflwynir gan hwylusydd arbenigol Sonia Gill, yn rhannu sut y mae perfformiad uchel a hapusrwydd yn cydblethu ac yn dangos nad ydynt yn annibynnol ar ei gilydd.

Cyflwynir y dosbarth gan hwylusydd arbenigol, Helen Clare.  Mae’n ddosbarth ar gyfer dynion a’r rheini a bennwyd yn ddynion ar eu genedigaeth a bydd yn rhoi dealltwriaeth o heriau’r peri-menopos a’r menopos o fewn ysgol.  Yn dilyn y cwrs, dylai mynychwyr deimlo’n fwy hyderus i gynnal sgyrsiau gyda chydweithwyr ac aelodau tîm am y menopos. Bydd y cwrs yn galluogi mynychwyr i gefnogi cydweithwyr neu eu cyfeirio at gefnogaeth briodol. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg o’r newydd ar sut i greu diwylliant sy’n annog sgwrs agored am y menopos.

Ymunwch â’r arbenigwr ‘menopos yn yr ysgol’, Helen Clare, a fydd yn cynnig awgrymiadau a chyngor ymarferol i staff addysgu yng Nghymru sut i ddelio â’r peri-menopos/menopos o fewn ysgol.

 

 

 

CYRSIAU CYMRAEG AR GYFER Y GWEITHLU ADDYSG

Tachwedd 2024 

Os ydych chi am wella a gloywi eich Cymraeg, beth am roi cynnig ar un o'r cyrsiau sydd wedi eu trefnu yn benodol ar gyfer y gweithlu addysg?  Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi trefnu nifer o gyrsiau preswyl ar lefelau amrywiol, er mwyn cynorthwyo unigolion sydd am ddysgu'r iaith neu sydd am wella eu sgiliau yn y Gymraeg.  Mae mwy o wybodaeth am y cyrsiau isod.  Noder bod yr holl gyrsiau preswyl yn cynnwys lluniaeth llawn ac maent wedi eu cyllido yn llawn.  Fodd bynnag, nid yw costau teithio na chyflenwi ar gyfer yr ysgol wedi eu cynnwys.  

*Cwrs Mynediad 1 - Dyma gyfle i unigolion sy’n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru a sydd ar ddechrau eu taith iaith i astudio ar gwrs preswyl yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Tiwtoriaid o Nant Gwrtheyrn fydd yn dysgu ar y cwrs a Nant Gwrtheyrn fydd yn rheoli elfennau gweinyddol y cwrs. Bydd y cwrs yma yn rhoi hwb i ddysgwyr i ddechrau defnyddio Cymraeg achlysurol yn eu gweithle

*Cwrs Codi Hyder - Defnyddia dy Gymraeg yn yr Ysgol - Mae'r cwrs preswyl yma yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer siaradwyr ar lefel uwch neu gloywi ac yn canolbwyntio ar gynyddu sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu addysg i fedru defnyddio'r Gymraeg bob dydd yn eu gwaith.  Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddefnydd llafar ond yn rhoi sylw i sgiliau deall, ysgrifennu a darllen hefyd.  Bydd digon o gyfleoedd yn ystod y cwrs i drafod sut i fynd ati i newid defnydd iaith yn y gwaith a hefyd i ddatrys heriau sy'n wynebu'r unigolion.  

*Cwrs Mynediad Symud 'Mlaen Gweithlu Addysg - Dyma gyfle i ddysgwyr sydd wedi cwblhau'r Cwrs Hunan astudio ar lefel Mynediad ac sy'n dymuno adolygu cynnwys y cwrs a pharatoi ar gyfer y cam nesaf.  Cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn fydd y cwrs a bydd yn brofiad trochi arbennig i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu hiaith newydd, ychydig o ddiwylliant y Gymraeg a chymdeithasu gyda chriw o unigolion ar yr un lefel ieithyddol. 

*Cwrs Sylfaen Symud 'Mlaen Gweithlu Addysg - Dyma gyfle i ddysgwyr sydd wedi cwblhau'r Cwrs Hunan-astudio ar-lein Sylfaen ac sy'n dymuno adolygu cynnwys y cwrs a pharatoi ar gyfer y cam nesaf.  Cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn fydd y cwrs a bydd yn brofiad trochi arbennig i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu hiaith newydd, ychydig o ddiwylliant y Gymraeg a chymdeithasu gyda chriw o unigolion ar yr un lefel ieithyddol

*Cwrs Estynedig Mynediad 1 a 2 Gweithlu Addysg 2025 - Dyma gyfle i unigolion sy'n gweihtio mewn ysgolion yng Nghymru sydd ar ddechrau eu tiaith iaith astudio ar gwrs preswyl estynedig gyda Nant Gwrtheyrn.  Mae hyn yn cynnwys wythnos breswyl 1 yn Nant Gwrtheyrn, 6 gwers ar-lein, wythnos breswyl 2 yn Nant Gwrtheyrn, un sesiwn gefnogi ar-lein ar ddiwedd y cyfnod.  Nod y cwrs yma yw cynyddu sgiliau siaradwyr newydd yn gyflym a rhoi'r hyder iddynt ddefnyddio Cymraeg syml yn eu gwaiht o ddydd i ddydd.  Bydd hyn yn eu galluogi i gyfrannu at amgylchedd Gymraeg a Chymreig eu hysgolion.  

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cyrsiau uchod, ewch i: 

HTTPS://DYSGUCYMRAEG.CYMRU/PORTHGWEITHLU-ADDYSG/

neu anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

neu ffoniwch 01758 750 334 a dewis yr Adran Addysg.