Y Cynllun Pensiwn Athrawon
Mae Deddf Pensiynau Sector Gyhoeddus 2013 wedi gorfodi newidiadau pellgyrhaeddol ym mhensiynau'r rhai sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus. Mae'r newidiadau i'r Cynllun Pensiwn Athrawon wedi dod i rym ers 1 Ebrill 2015. Mae undebau'r athrawon, yn cynnwys UCAC, wedi bod mewn trafodaeth efo'r Llywodraeth yn San Steffan i geisio lliniaru effaith y newidiadau hyn ar ein haelodau.
I weld crynodeb o'r newidiadau hyn, cliciwch ar y linc isod i lawrlwytho dogfen wedi'i baratoi gan UCAC:
Crynodeb o'r newidiadau i Gynllun Pensiwn Athrawon
Yn y cyfamser, mae UCAC yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth i ystyried gwelliannau pellach i’r Cynllun Pensiwn Athrawon 2015, a gofynnwn i chi gefnogi ymgyrch UCAC.
Ymgyrchu gydag UCAC


Prif faterion o bryder
Oed pensiwn y cynllun pensiwn newydd
Cyfraniadau aelodau’r Cynllun Pensiwn Athrawon
Dau gynllun pensiwn gydag oed pensiwn gwahanol
Rheolau ataliad (abatement) a phensiwn gohiredig
Universities Superannuation Scheme (USS)
-
Oedran Ymddeol
- Codi’r Oedran Pensiwn Arferol i 65 yn y lle cyntaf
- Cysylltu’r Oedran Pensiwn Arferol â’r Oedran Pensiwn Gwladol; h.y. codi i 68 oed ar gyfer darlithwyr sy’n 33 oed neu’n iau nawr
-
Cynllun Cyflog Terfynol → Cynllun Enillion Cyfartalog (CARE)
- Cyflwynir cynllun Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi’u Hailbrisio (Career Average Revalued Earnings neu CARE) ar gyfer aelodau newydd o’r cynllun o 1 Hydref 2011 ymlaen
- Hynny yw, seilir pensiwn aelodau newydd ar gyfartaledd eu henillion dros eu gyrfa gyfan yn hytrach nag ar sail eu cyflog terfynol
- Ni fydd Cynllun Cyflog Terfynol ar gael i aelodau newydd o 1 Hydref 2011 ymlaen
-
Cyfraniadau
- Cynnydd o dros 18% yng nghyfraniadau’r aelodau sy’n rhan o’r Cynllun Cyflog Terfynol (sef aelodau cyfredol y cynllun), o 6.35% i 7.5% = toriad cyflog
- Cyfraniadau o 6.5% ar gyfer aelodau o’r Cynllun Enillion Cyfartalog (sef aelodau newydd y cynllun)
- Chwyddiant
- Ar gyfer aelodau cyfredol y cynllun, bydd buddion a enillwyd ar gyfer gwasanaeth hyd at 1 Hydref 2011 yn cynyddu yn eu gwerth yn unol â chyfradd chwyddiant llawn y CPI
- Ar gyfer aelodau newydd ac aelodau cyfredol, bydd gwerth pensiynau ar gyfer gwasanaeth a enillwyd ar ôl 30 Medi 2011 yn cynyddu yn unol â chyfradd chwyddiant y CPI ond â nenfwd o 5% i gychwyn, ac wedyn graddfa symudol yn estyn hyd at 10%
-
Costau’r cynllun i’r dyfodol
- Cyflwynir dull o rannu costau rhwng y cyflogwr a’r aelodau os yw costau’r cynllun yn cynyddu yn y dyfodol
- Ar hyn o bryd cyfanswm cyfraniad y cyflogwr a’r aelod yw 23.5% (Cynllun Cyflog Terfynol) neu 22.5% (Cynllun Enillion Cyfartalog); bydd unrhyw gynnydd i’r cyfanswm hyn yn cael ei rannu 65%/35% rhwng y cyflogwr/aelodau