Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.
Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.
Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
EBRILL 2024
Mae hi'n anodd credu bod tymor olaf y flwyddyn ysgol newydd ddechrau. Er bod y tymhorau'n newid, mae rhai pethau yn aros yr un fath ac yn sicr mae'r angen i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles a gofalu am iechyd meddwl a lles ein cydweithwyr yn hynod o bwysig. Mae gan Education Support nifer o gyrsiau a dosbarthiadau meistr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Byddai'n syniad bwrw golwg ar y rhestr isod. Cliciwch ar y dolenni, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cyrsiau. (Dylid nodi mai cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg yw'r cyrsiau hyn).
GWYBODAETH SYDD WEDI DOD I LAW ODDI WRTH EDUCATION SUPPORT
Mae ein dosbarthiadau meistr nesaf a ariennir bellach ar gael i'w harchebu ar ein gwefan – ond cliciwch ar y dolenni hyn nawr i gofrestru gan fod y nifer yn gyfyngedig.
Chwefror 2024
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig ac mae iddo oblygiadau pellgyrhaeddol i bob un sydd yn ymwneud â byd addysg.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn beth yw eich barn am dri opsiwn:
Opsiwn 1.
Cadw'r gwyliau ysgol fel y maent - wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau Pasg, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin a chwe wythnos o wyliau haf.
Opsiwn 2.
Newid y calendr ysgol o fis Medi 2025 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf (gyda'r gwyliau'n dechrau ar 30 Gorffennaf 2026)
Yn yr opsiwn yma, byddai 1 wythnos o wyliau’r haf yn cael ei symud i dymor yr hydref a byddai gwyliau’r haf wythnos yn fyrrach. Byddai gwyliau’r gwanwyn yn cael eu symud i ffwrdd oddi wrth y Pasg. Byddai'r ddau ddiwrnod sy'n wyliau cyhoeddus adeg y Pasg (dydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg) yn dal i fod yn ‘ddiwrnodau i ffwrdd’ o’r ysgol.
Opsiwn 3.
Calendr ysgol newydd ar gyfer y dyfodol - Byddai'r newidiadau yn cael eu gwneud mewn dau gam
Cam 1 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf.
(Mae opsiwn 3 cam 1 yr un fath ag Opsiwn 2)
Cam 2 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pedair wythnos o wyliau haf.
Yn ogystal â'r newidiadau uchod i'r gwyliau, mae'r Llywodraeth yn ystyried cael diwrnodau canlyniadau Safon Uwch a TGAU yn yr un wythnos yn ystod gwyliau'r haf ac yn holi eich barn am y cynnig hwnnw hefyd.
Dyma'r patrwm a gynigir ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026
CYFNOD |
DECHRAU |
DIWEDD |
Tymor yr hydref 2025 |
Llun, 1 Medi |
Gwener, 19 Rhagfyr (hanner tymor cyntaf yn 7 wythnos; ail hanner tymor yn 7 wythnos) |
Hanner tymor yr hydref 2025 |
Llun, 20 Hydref |
Gwener, 31 Hydref (bythefnos o wyliau hanner tymor) |
Tymor y gwanwyn 2026 |
Llun, 5 Ionawr |
Gwener, 3 Ebrill (hanner tymor cyntaf yn 6 wythnos; ail hanner tymor yn 6 wythnos) |
Hanner tymor y gwanwyn 2026 |
Llun, 16 Chwefror |
Gwener, 20 Chwefror (wythnos o wyliau hanner tymor) |
Tymor yr haf 2026 |
Llun, 20 Ebrill |
Mercher, 29 Gorffennaf (hanner tymor cyntaf yn 5 wythnos; ail hanner tymor yn 8 wythnos a 3 diwrnod) |
Hanner tymor yr haf 2026 |
Llun 25 Mai |
Gwener 29 Mai (wythnos o wyliau hanner tymor) |
Beth yw eich barn chi am y mater? Cofiwch fanteisio ar y cyfle i fynegi eich barn.
Am wybodaeth bellach ac am wybod sut i ymateb, ewch i:
https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol
Prif Swyddfa UCAC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2EU
01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
©UCAC Holl hawliau ar gadw. Datblygwyd gan AIM Development