UCAC
Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.

Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.

Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma. 

ATHRAWON DAN HYFFORDDIANT

AELODAETH AM DDIM

Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.

Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.


ATHRAWON NEWYDD GYMHYWSO

BLWYDDYN O AELODAETH AM DDIM
gyda'r flwyddyn ganlynol yn hanner pris

Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.

Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.

Os ydych chi'n ymuno am y tro cyntaf
Os ydych chi'n aelod yn barod

NEWYDDION

CEFNOGI ARWEINWYR YSGOLION A CHOLEGAU ADDYSG BELLACH

Hydref 2026 

Ydych chi'n arweinydd ysgol?  Ydych chi'n teimlo y gallech elw o gael sgwrsio'n gyfrinachol gyda rhywun sy'n deall yr heriau yr ydych chi'n eu hwynebu?

Mae Education Support yn cynnig goruchwyliaeth broffesiynol i arweinwyr ysgol.  

Byddwch yn cyfarfod am chwe sesiwn ar-lein gyda goruchwyliwr cymwys sy'n deall y sector addysg.

Mae gan oruchwyliaeth ffocws proffesiynol ac mae'n gwbl gyfrinachol. Mae'n amser wedi’i neilltuo i'ch rôl fel arweinydd addysg, a bydd yn eich helpu i wella'ch llesiant.

Mae Education Support eisoes wedi cefnogi dros 1300 o arweinwyr ysgol a choleg. Gall y pynciau sy'n cael eu harchwilio yn yr oruchwyliaeth gynnwys:

  • Ymdrin ag agweddau emosiynol heriol ar eich rôl
  • Cydbwyso gyrfa heriol gyda bywyd cartref iach
  • Eich hunaniaeth broffesiynol a'r gost bersonol o wneud eich gwaith
  • Rheoli perthnasoedd gwaith anodd
  • Ailgysylltu â'r hyn sy'n wych am yrfa mewn addysg

Mae astudiaethau'n dangos fod

*goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau arweinwyr.

*goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant arweinwyr.

*goruchwyliaeth yn gysylltiedig â boddhad swydd.

*goruchwyliaeth yn gysylltiedig â gwell llesiant emosiynol. 

 

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod: 

Wellbeing support for school and FE leaders | Education Support

CEFNOGI STAFF SY'N PROFI'R PERI-MENOPOS A'R MENOPOS

Hydref 2026 

Mae mis Hydref yn fis ymwybyddiaeth y menopos.  Er mwyn cynorthwyo arweinwyr ysgol yng Nghymru i gael sgyrsiau cefnogol gydag aelodau staff, mae Education Support wedi creu canllaw dwyieithog ar eu cyfer.  Beth am gael golwg ar y canllaw hwn?  

Dilynwch y ddolen isod: 

Cefnogi staff sy'n profi'r peri-menopos a'r menopos: canllaw i bob arweinydd ysgol | Education Support