Deiseb i sicrhau cydraddoldeb cwricwlwm i ysgolion cyfrwng Cymraeg

21 Gorffennaf 2017

Deiseb i sicrhau cydraddoldeb cwricwlwm i ysgolion cyfrwng Cymraeg

Mae UCAC yn cefnogi'r ddeiseb isod sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i atal Cymwysterau Cymru rhag parhau i wahaniaethu yn erbyn dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a sicrhau cydraddoldeb ieithyddol o ran cwricwlwm ysgol.
O fis Medi ymlaen, am y tro cyntaf ers 2009, ni fydd cwrs TGAU Seicoleg; a  TGAU Economeg yn yr un modd yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion blwyddyn 10. 
 
Yn sgil penderfyniad CBAC yn 2015 i ollwng Seicoleg ac Economeg fel pynciau TGAU, estynnwyd gwahoddiad gan Gymwysterau Cymru i gyrff dyfarnu Saesneg (AQA, OCR, Pearson-Edexell) i gynnig y cymwysterau yng Nghymru. Mae'n debyg na roddwyd unrhyw bwysau arnynt i gynnig y pynciau yma drwy gyfrwng y Gymraeg.  Ymateb Cymwysterau Cymru i hyn yw dweud y byddai'r cyrff dyfarnu Saesneg yn gwrthod cynnig pynciau yng Nghymru yn gyfan gwbl pe tase nhw yn cael eu gorfodi i gynnig opsiwn Cymraeg, a bod Cymwysterau Cymru yn ceisio sicrhau 'y dewis ehangaf o bynciau i ddysgwyr Cymru' (Cylchlythyr CC, Rhagfyr 2016).
 
Mae angen Seicolegwyr ac Economegwyr sy'n gallu trafod eu pwnc yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn medru trin a thrafod gan ddefnyddio'r derminoleg Cymraeg. Wrth amddifadu disgyblion cyfrwng Cymraeg rhag y cyfle i astudio Seicoleg ac Economeg TGAU drwy'r Gymraeg, gallem fod yn colli nifer sylweddol o fyfyrwyr fyddai'n medru cyfrannu at y meysydd arbenigol hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Yn ogystal â hyn, gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi nifer o ddarlithwyr newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i addysgu'r pynciau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n gwbl hurt bod Cymwysterau Cymru’n mynd ati i sicrhau na fydd myfyrwyr ar eu cyfer bellach.
 
Os ydych chi'n cefnogi, beth am lofnodi'r ddesideb?
 
 
Bydd UCAC yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Chwymsterau Cymru ar y mater brys hyn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
 
Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni: 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.