Diweddariad: Canllawiau dros dro: Cyfnod Ymsefydlu

Bydd UCAC yn parhau i godi’r mater hwn er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa ar gyfer ANGiaid a chaniatáu iddynt gwblhau eu Cyfnod Ymsefydlu yn y modd mwyaf hwylus posib.
 

6 Ebrill 2020

Diweddariad: Canllawiau dros dro: Cyfnod Ymsefydlu

Yn sgil eich pryderon, mae UCAC wedi codi'r materion gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.
 
Dyma grynodeb o'r hyn rydym wedi'i godi ar eich rhan:
  • rydym o'r farn bod y canllaw dros dro yn gosod disgwyliadau ar ANGiaid sy’n afresymol ac yn afrealistig dan yr amgylchiadau
  • nid ydym o'r farn bod gweithio mewn hybiau na pharatoi gwaith dysgu o bell yn cynnig y mathau o brofiad y byddai 'sesiynau dysgu' arferol yn eu cynnig ac ni fyddant yn gallu cynnig sail ar gyfer datblygiad proffesiynol cyson, na thystiolaeth i'w nodi yn erbyn y Safonau Proffesiynol; felly rydym yn dadlau dros ddileu'r gofyniad:
    • i gofnodi rhagor o sesiynau dysgu
    • i ddatblygu rhagor o dempledi profiadau newydd yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol
  • nid ydym o'r farn ei fod yn rhesymol nac yn realistig i ddisgwyl i’r mentoriaid barhau â'u gwaith mentora, ac ni fyddai'n rhwydd i wirwyr allanol barhau â phob agwedd o'u rôl
  • mae angen ystyried addasiadau rhesymol fydd yn sicrhau bod ystyriaeth deg a rhesymol o'r ffaith na chafwyd blwyddyn gyfan i ddatblygu sgiliau a chasglu tystiolaeth fel sail ar gyfer yr asesiad 
  • mae angen dechrau gwneud trefniadau nawr ar gyfer sicrhau bod datblygiad proffesiynol ychwanegol ar gael i chi pan fydd ysgolion yn ail-agor er mwyn ceisio llenwi'r bylchau 
Rydym yn aros am ymateb, a rhoddwn y wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted ag y daw.