Ffarwelio a chroesawu aelod newydd o staff

8 Mehefin 2017

Ffarwelio a chroesawu aelod newydd o staff

Mae'n gyfnod o newid i ni yma ym Mhrif Swyddfa UCAC wrth i ni ffarwelio gyda Delyth Jones fu'n Ysgrifennydd Aelodaeth a Chyllid yr Undeb am bron i 30 mlynedd. Roedd Delyth yn adnabyddus i'n haelodau ym mhob rhan o Gymru fel y pwynt cyswllt cyntaf wrth ffonio'r Brif Swyddfa ac fel y wyneb oedd yn croesawu’n haelodau ym mhabell UCAC ar feysydd y ddwy Eisteddfod. Diolch o galon Delyth am eich gwasanaeth hir a chlodwiw i'r Undeb.
 
Wrth ffarwelio gyda Delyth dyma gyfle i groesawu Heledd Hughes i'n plith fel swyddog gyda chyfrifoldeb am aelodaeth a chyllid yr Undeb. Cyn ymuno gydag UCAC bu Heledd yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion ac mae'n edrych ymlaen at heriau'r swydd ac at fod yn rhan o dîm fydd yn gweithio'n ddiflino dros yr athrawon a'r darlithwyr sy'n aelodau o'r Undeb.