Safbwynt UCAC ynghylch wythnos 20-24 Gorffennaf

23 Mehefin 2020

Daeth rhes o gyhoeddiadau gan Awdurdodau Lleol o nos Wener 19 Mehefin ymlaen a dros y penwythnos ynghylch eu trefniadau ar gyfer yr wythnos ‘ychwanegol’ o dymor cyn yr haf, sef 20-24 Gorffennaf.

Yn sgil y datganiadau hynny, a’r ffaith bod rhai ohonynt wedi cyfeirio at ‘yr undebau’, rydym am ddatgan safbwynt UCAC yn glir.

  • Nid yw UCAC ar unrhyw adeg wedi gwrthwynebu neu ymgyrchu yn erbyn agor ysgolion yn ystod yr wythnos 20-24 Gorffennaf; nid yw ychwaith wedi ymgyrchu o blaid
  • Mae UCAC wedi amlinellu cyfres o faterion ymarferol y byddai angen eu hystyried a’u datrys er mwyn agor ysgolion yn ystod yr wythnos ychwanegol, neu petai’r flwyddyn ysgol yn cael eu hamrywio mewn unrhyw ffordd
  • Y gwirionedd yw mai’r Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru sydd wedi methu dod i gytundeb ar y mater hwn, nid yr undebau a Llywodraeth Cymru

Safbwynt UCAC mewn perthynas â chynigion eraill Llywodraeth Cymru

  • Fe wnaeth UCAC ddadlau’n gryf, petai ysgolion yn ail-agor cyn yr haf, y dylid canolbwyntio ar grwpiau penodol yn hytrach na cheisio rhoi cyfle i bob disgybl, a hynny am resymau gwbl ymarferol yn ymwneud â diogelwch a iechyd disgyblion a staff
  • Fe wnaeth UCAC, ar y cyd â 9 allan o 10 o’r undebau addysg, wrthwynebu ail-agor ysgolion ar ddechrau mis Awst; fe wrthwynebodd y 10fed undeb hefyd, ond mewn datganiad ar wahân.

Mae UCAC wedi gwneud pob penderfyniad yn unol â’i strwythurau democrataidd.