Stigma Iechyd Meddwl

16 Chwefror 2016

Stigma Iechyd Meddwl

Pan fydd Adran Gydraddoldeb  UCAC yn cyfarfod yr arferiad yw gwahodd gwahanol unigolion a mudiadau sydd yn gweithio yn y  maes i rannu profiadau gyda ni ac i gynnig arweiniad. 
 
Yn ein cyfarfod diwethaf cafwyd cyflwyniad arbennig a chynhwysfawr gan Bethan Roberts, Rheolwr Gweithredol MIND Aberystwyth ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn y sector addysg. 
 
Er mwyn ysgogi trafodaeth cafwyd cwis 'Stigma Iechyd Meddwl' i herio gwybodaeth aelodau'r Adran am y pwnc. Nodwyd y canfyddiad bod 46% o bobl yng Nghymru yn credu na ddylai fod gan berson sydd wedi dioddef iechyd meddwl yr hawl i fod yn athro cynradd.
 
Cafwyd cyflwyniad am arwyddion a symptomau iechyd meddwl mewn athrawon, darlithwyr, cydweithwyr neu ddisgyblion gydag ystyriaeth i'r rhesymau posib am y gwahanol gyflyrau.
 
Yn ogystal, cafwyd trosolwg gan Bethan o'r mathau o driniaethau a chefnogaeth sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael â iechyd meddwl yn y gweithle. 
 
Nodwyd bod nifer o adnoddau defnyddio ar wefan MIND Cymru.
 
MIND
 
MIND Aberystwyth