Streic Ddaear

19 Medi 2019
 

Streic Ddaear

Efallai eich bod yn ymwybodol o’r Streic Ddaear sydd i ddigwydd yfory ar 20fed Medi, 2019.
 
(https://www.earth-strike.com/en/uk/) .
 
Mae’n ddigwyddiad rhyngwladol sy’n rhoi’r cyfle i unrhyw un o unrhyw oedran ddangos cefnogaeth i weithredu cyson a diwyd pobl ifanc dros yr amgylchedd, ac i dynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd.
 
Er bod y digwyddiad yn cael ei alw’n ‘streic’, mae’n bwysig nodi nad yw’n dod dan bennawd ‘gweithredu diwydiannol’ gan nad yw’n ymwneud â chyflogaeth. 
 
Mae’r mudiad undebol, trwy’r TUC, yn cefnogi’r digwyddiad, ac yn annog aelodau i ddangos eu cefnogaeth i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n dewis cymryd rhan drwy gynnal ‘gweithred ymgyrchu 30 munud’ (30-minute workday campaign action).
 
Mae UCAC yn cynnig y cyngor canlynol wrth i ysgolion baratoi ar gyfer y diwrnod:
 
mae UCAC yn annog aelodau i ddangos cefnogaeth drwy gynnal ‘gweithred ymgyrchu’ - a allai fod amser egwyl, neu cyn/ar ôl oriau dysgu
 
mae UCAC yn credu’n gryf bod angen sicrhau bod newid hinsawdd yn cael sylw dyledus ar draws y cwricwlwm; mae’r digwyddiad ar 20 Medi yn cynnig cyfle i sicrhau pwyslais ar faterion perthnasol o fewn gwersi/darlithoedd
 
Mae UCAC yn parchu ac yn cefnogi’r hawl i brotestio’n heddychlon – mae’n hawl ddemocrataidd bwysig. Ar yr un pryd, rydym am sicrhau diogelwch aelodau – a’r pobl ifanc dan eich gofal, felly:
 
mae ddeddf Gydraddoldeb 2010 yn sicrhau’r hawl i chi rannu’ch barn ar newid hinsawdd; dylai hyn gael ei wneud mewn modd sy’n adlewyrchu disgwyliadau proffesiynol swydd athro/arweinydd
 
Bydd swyddog o'r Undeb yn bresennol yn y digwyddiad Streic Ddaear sydd i ddigwydd ger yr Orsaf Drennau yn Aberystwyth am 11.30 y bore.