Taith Llwyth Gwaith UCAC: Diweddariad

24 Tachwedd 2014

Taith Llwyth Gwaith UCAC: Diweddariad

Mae Taith Llwyth Gwaith UCAC bellach wedi ymweld â nifer o siroedd gyda chyfarfodydd yr wythnos hon i'n haelodau yn ne Gwynedd, Sir Benfro, Nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Ddinbych, Caerdydd, Blaenau Gwent, Caerffili a Chaerdydd. Mae'r niferoedd sydd wedi mynychu’r cyfarfodydd hyd yn hyn wedi bod yn brawf o'r teimladau cryf bod ein haelodau wedi cael digon ar y pwysau gwaith affwysol sydd arnynt.

Roedd yr holiadur llwyth gwaith UCAC wedi dangos yn glir bod ceisio cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn amhosib yng nghyd-destun y disgwyliadau sydd arnynt ar hyn o bryd. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar forâl, iechyd a'u perthynas gyda'u teuluoedd.
 
Yn y cyfarfodydd cafwyd teimladau cryf nad yw'r fath sefyllfa'n gynaliadwy a bod angen i’r awdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol a llywodraethau Caerdydd a San Steffan weithredu ar fyrder i ystyried y sefyllfa.
 
Ymysg y pryderon mae cynllunio beichus, gofynion marcio afresymol a phwyslais ar ddata sydd yn anghydnaws â dyheadau athrawon i sicrhau cynnal a chodi safonau. Mae teimlad cryf bod angen ystyried oblygiadau llwyth gwaith bob blaengaredd sydd yn dod i ran y gweithlu.
 
Mae swyddogion  UCAC wedi gwerthfawrogi'r cyfle i gyfarfod cymaint o aelodau ac i glywed am bryderon fydd yn llywio ein trafodaethau gyda'r gwleidyddon a Swyddogion Addysg dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.