Trafodaethau gyda Trysorlys San Steffan

29 Gorffennaf 2019
 

Trafodaethau gyda Trysorlys San Steffan

Ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 23ain, 2019 mynychodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Dilwyn Roberts-Young gyfarfod rhyng-undebol gyda Thrysorlys San Steffan. Roedd y cyfarfod wedi ei drefnu gan y TUC, er mwyn sicrhau cyfle i wyntyllu dyfarniad yr achos llys yn ymwneud â phensiynau diffoddwyr tân. 
 
Er bod y dyfarniad yn benodol am y proffesiwn hwnnw gall bod oblygiadau pellgyrhaeddol i bawb sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus gan gynnwys athrawon, darlithwyr ac arweinwyr.
 
Yn gyd-ddigwyddiadol cafwyd datganiad ysgrifenedig gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ar fore’r cyfarfod. Mae modd darllen y datganiad yma:
 
Mae’r TUC bellach mewn deialog gyda Rishi Sunak AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys a bydd UCAC, yr unig gynrychiolwyr o Gymru, yn parhau i dderbyn diweddariadau gan y TUC ac yn mynychu cyfarfodydd pellach wrth i’r trafodaethau fynd yn eu blaenau.
 
Byddwn yn diweddaru ein haelodau wrth I wybodaeth bellach gael ei rannu gyda’r undebau.