Trochi’n cael parhau: undeb yn croesawu eglurhad

4 Chwefror 2019

Trochi’n cael parhau: undeb yn croesawu eglurhad

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu’r eglurhad sydd wedi’i gynnig gan Lywodraeth Cymru heddiw y bydd Cylchoedd Meithrin ac ysgolion yn cael parhau i drochi plant yn y Gymraeg.

Mae’r datganiad yn cadarnhau na fydd gorfodaeth arnynt, dan ofynion y cwricwlwm newydd, i “addysgu Saesneg” fel oedd wedi’i awgrymu yn y Papur Gwyn a gyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’n galwadau ni ac eraill i gynnig eglurhad diamheuol o’u bwriad mewn perthynas â throchi. Croesawn y gydnabyddiaeth nad oedd geiriad y cynnig yn y Papur Gwyn yn adlewyrchu bwriad y Llywodraeth yn gywir.

“Roedd unfrydedd a ffyrnigrwydd yr ymateb gan fudiadau a rhieni i’r bygythiad yma’n dangos gwerth y dull trochi fel ffordd o greu dinasyddion dwyieithog. Mae’n profi yn ogystal yr angen i barhau’n wyliadwrus, i gadw llygad barcud ac i leisio barn a herio mewn trefn ddemocrataidd.

“Edrychwn ymlaen nawr at ymateb mewn manylder i’r cynigion fydd yn symud ein cwricwlwm i gyfnod newydd arloesol.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.