UCAC yn croesawu’r cynnydd cenedlaethol yng nghanlyniadau Safon Uwch

13 Awst 2020

Mae undeb addysg UCAC yn awyddus i ganmol gwaith caled ymgeiswyr, athrawon, darparwyr cymwysterau a rheoleiddwyr wrth i ganlyniadau ddangos cynnydd pellach o gymharu a’r blynyddoedd a fu, ond yn pryderu na fydd y darlun yn llawn tan ddechrau wythnos nesaf.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod gwaith caled a llwyddiant ymgeiswyr ac athrawon heddiw, er gwaetha’r sefyllfa heriol iawn sydd yn ein hwynebu. Rydym hefyd yn cydnabod ei fod yn debygol mai dyma’r gweithdrefnau orau i ymateb i’r heriau oedd yn wynebu CBAC a Chymwysterau Cymru.

“ Fodd bynnag, erys pryderon mawr fod anghysondebau lu yn parhau ar lefel unigolion a chanolfannau, hyd yn oed o ystyried ‘gwarant’ y Gweinidog Addysg neithiwr.

“Mae’n anorfod bod y newidiadau munud olaf a chanlyniadau unigolion am greu pryder di angen a mawr obeithiwn na welwn ail adrodd hyn wythnos nesaf. 

“Byddwn fel Undeb yn parhau i geisio eglurder o ran yr anghysondebau a chynnig cefnogaeth lawn i bob aelod ond rhaid yn  awr rhoi’r sylw haeddiannol i ddathlu llwyddiant yr ymgeiswyr a dymuno’n dda iddynt.