UCAC yn derbyn ymateb i'r llythyr at yr enwadau

1 Hydref 2015

UCAC yn derbyn ymateb i'r llythyr at yr enwadau

Yn dilyn anfon llythyr chwyrn at y papurau enwadol a gyhoeddodd erthygl olygyddol yn ymosod ar athrawon Cymru, mae UCAC wedi derbyn yr ymateb isod.

Annwyl Ms Elaine Edwards,

Diolch i chwi am y neges a dderbyniais gennych ddoe.

Y mae wedi bod yn ofid mawr i ni fel Pwyllgor fod sylwadau o eiddo Golygydd y Pedair Tudalen Gydenwadol wedi aflonyddu ar gymaint o bobl. Gallaf eich sicrhau nad yw’r sylwadau hynny yn adlewyrchu barn neb arall ohonom a’n bod yn gweithio’n ddyfal i ddad-wneud y difrod a’r niwed sydd wedi ei wneud, ac i ddwyn y bennod anhapus hon tua’i therfyn.

Yn ddiffuant,

Geraint Tudur
Ysgrifennydd Pwyllgor y Pedair Tudalen