UCAC yn gwrthwynebu torri Gwasanaeth Cerddoriaeth Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf

22 Hydref 2014

UCAC yn gwrthwynebu torri Gwasanaeth Cerddoriaeth Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf 

Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi ddoe eu hymgynghoriad i dorri gwasanaeth Cerddoriaeth i blant ysgolion y sir yn gyfan gwbl. Fe ddaw'r penderfyniad hwn yn sgil cyhoeddiad y cyngor fod angen arbed oddeutu £31.2miliwn yng nghyllideb y cyngor y flwyddyn nesaf (2015/16).

Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfrifol am ddarparu gwersi cerddoriaeth peripatetig (offerynnol a lleisiol) ynghyd a darparu gwersi ar gyfer cwricwlwm yr ysgol i oddeutu 5300 o blant ardraws y sir.  Hefyd mae'r gwasanaeth yn darparu dros 20 o grwpiau allgyrsiol wythnosol sy'n sicrhau fod cerddorion ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cerddorfeydd, bandiau, ensembles a chorau a hynny i gyd am ddim.  Mae'r rhain yn cynnwys Cerddorfa Ieuenctid y Pedair Sir, Band Pres, Cerddorfa Linynnol a Band Chwyth.

Dywedodd Cynrychiolydd ar ran UCAC:
 
                "Mae'r penderfyniad hwn gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf i dorri gwasanaeth gerddoriaeth y sir yn gyfan gwbl yn codi pryder sylweddol am ddyfodol cerddorion ifanc y sir a'i sgil effeithiau i Gymru gyfan.  Nid yn unig bydd plant y sir yn colli'r cyfle i dderbyn gwersi o'r fath yma ond hefyd mae'r gwasanaeth cyson y mae'r Gwasanaeth Cerddoriaeth wedi ei gynnig dros y blynyddoedd wedi bod o'r safon uchaf."
 
Yn ogystal mi fydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu torri:
  • Arholiadau Associated Board of the Royal Schools of Music a Trinity London sy'n cael eu cynnal 3 gwaith y flwyddyn gyda chyfeilyddion di-dâl
  • Gwyliau Cerddorol Blynyddol: G?yl Gerddoriaeth Nadolig i ysgolion cynradd yng Nghadeirlan Llandaf (gydag oddeutu 750 o blant yn cymryd rhan)  G?yl Gerddoriaeth yr Ysgolion mewn theatrau lleol (gydag oddeutu 1000 o blant yn cymryd rhan)
  • Cyfleoedd i gerddorion ifanc i berfformio ar lwyfannau ar draws y sir ac ymhellach yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru Caerdydd, Cadeirlan  Llandaf,  G?yl Bres Bury Port, yr ?yl Genedlaethol Gerddoriaeth a'r  ?yl Genedlaethol i Gerddoriaeth yr Ifanc (National Festival of Music for Youth) yng Nghwmbrân a Chaerdydd
  • Prosiectau a gweithdai mewn ysgolion ar draws y sir mewn cydweithrediad gydag adrannau eraill o fewn y cyngor, ee. SONIG a Gwasanaethau Diwylliannol, ynghyd â  sefydliadau eraill fel BBCNOW, T? Cerdd ac Opera Cenedlaethol Cymru

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mererid Lewis Davies ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639 950