UCAC yn rhybuddio am yr heriau sy'n wynebu ysgolion a cholegau addysg bellach

19 Awst 2015

UCAC yn rhybuddio am yr heriau sy'n wynebu ysgolion a cholegau addysg bellach 

Mae UCAC heddiw yn rhybuddio am yr heriau sy'n wynebu ysgolion a cholegau addysg bellach wrth iddynt ddarparu dewisiadau cwricwlwm eang i'r disgyblion hynny fydd yn derbyn eu canlyniadau TGAU yfory.
 
"O ganlyniad i'r cyfyngiadau cyllidol sy'n arwain at doriadau staffio ac adnoddau, mae'n dod yn fwyfwy anodd i ysgolion a cholegau barhau i ddarparu dewisiadau eang yn eu cwricwlwm ar gyfer dysgwyr ôl-16", medd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC. 
 
"Mae'n hollbwysig bod amrywiaeth o gyrsiau academaidd a galwedigaethol safonol ar gael er lles y bobl ifanc hyn, ac er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i system addysg a thwf economaidd y wlad. Mae UCAC yn galw ar bob un o'r pleidiau gwleidyddol i roi blaenoriaeth i addysg a chyllido addysg".
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag UCAC ar 01970 639 950.