Ysgol â llai na 91 disgybl yn 'ysgol fach' meddai Llywodraeth Cymru

11 Gorffennaf 2014

Ysgol â llai na 91 disgybl yn ‘ysgol fach’ meddai Llywodraeth Cymru

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi darganfod bod Llywodraeth Cymru wedi diffinio ‘ysgol fach’ fel “ysgol â llai na 91 o ddisgyblion”.
Arwyddocâd y diffiniad o ysgol fach yw bod modd i Awdurdod Lleol ffedereiddio ysgolion bach heb ymgynghori â disgyblion a’u rhieni, staff yr ysgol a chyrff sy’n cynrychioli staff yr ysgol.
 
Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi “Mae’r ffigwr o 91 disgybl yn gwbl anaddas ar gyfer cyd-destun Cymru. Gwyddom fod 70% o ysgolion cynradd Ceredigion, a 62% o ysgolion cynradd Gwynedd, yn cwympo i’r categori newydd hwn o ‘ysgol fach’.
 
“Nid ydym yn gwrthwynebu ffederaleiddio o gwbl – i'r gwrthwyneb, mae’n gallu cynnig manteision sylweddol i ysgolion. Fodd bynnag, pryderwn y bydd y ddiffiniad hwn yn gadael rhieni, disgyblion a staff mewn cyfran uchel o ysgolion ar hyd a lled Cymru heb lais yn y broses.
 
Nodiadau
  • Gwnaed y Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014 ar 29 Ebrill 2014, a daeth i rym ar 22 Mai: http://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2014/1133/contents/made/welsh
  • Mae’r Gorchymyn yn cyfeirio at Fesur Addysg (Cymru) 2011, sy’n rhoi’r grym i Awdurdodau Lleol (cymal 11) a Gweinidogion Cymru (cymal 16) sefydlu ffederasiynau o ysgolion. Daeth y rhan honno o’r Mesur i rym ym mis Mai eleni; cyn hynny, dim ond ysgolion eu hunain oedd â’r hawl i greu ffederasiynau. Mae Cymal 15 yn rhoi’r hawl i Weinidogion “wneud darpariaeth drwy orchymyn i ddiffinio ysgol fach a gynhelir drwy gyfeirio at nifer penodedig o ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ar ddyddiad penodedig mewn unrhyw flwyddyn.”
  • Yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Cymru (2013), cymal 56 (1) diffinnir ysgol fach fel “ysgol sydd a llai na 10 o ddisgyblion cofrestredig”
  • Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynnig ar ddechrau 2013, a bryd hynny dywedodd UCAC: “Anghytunwn yn gryf â’r cynnig hwn. Nid yw ysgol o oddeutu 100 o ddisgyblion yn ysgol fach yng nghyd-destun ysgolion Cymru. Bwriad y cynigion yw darparu cyfundrefn gyflymach a mwy hwylus ar gyfer ffedereiddio ysgolion bach, ac mai eithriad dylai hynny fod. Serch hynny, nodwn fod bron a bod traean (32%) o ysgolion cynradd Cymru’n ysgolion bach dan y diffiniad hwn - nid eithriadau mo’r rhain, felly. Ni wrthwynebwn yr egwyddor o gyflymu’r broses ar gyfer rhai ysgolion bach, ond ni allwn dderbyn trefn sy’n golygu ymgynghori â llai o randdeiliaid yn achos cyfran mor uchel o ysgolion Cymru.”
Am fanylion pellach cysylltwch â Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.