£100 miliwn i Gymru, apêl i’w ddefnyddio er mwyn y Gymraeg

9 Rhagfyr 2013

£100 miliwn i Gymru, apêl i’w ddefnyddio er mwyn y Gymraeg

Mae mudiadau iaith wedi galw ar y Prif Weinidog i fuddsoddi canran o’r arian a ddaw i Gymru yn sgil Datganiad Hydref y Canghellor ym mhrosiectau iaith Gymraeg a fyddai’n gwella sgiliau plant a gweithwyr.

Mae cyllideb ddrafft bresennol Llywodraeth Cymru’n amlinellu toriadau ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â’r Gymraeg; yn benodol, toriadau o fwy na £1.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
 
Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn gr?p ymbarél sy’n cynrychioli 25 o fudiadau sy’n gweithio i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mewn llythyr at y Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyllid heddiw, dywed Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, Penri Williams:
 
“Dangosodd canlyniadau’r Cyfrifiad bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng a bod angen i’r Llywodraeth weithredu ar fyrder i atal cwymp pellach. Cawsom gyfarfod adeiladol iawn gyda’ch swyddogion yn ddiweddar lle dangoswyd awydd i weithredu ar gynigion ymarferol pe byddai arian ychwanegol ar gael.
 
“Sylweddolwn bod y sefyllfa ariannol bresennol yn heriol, ond nodwn hefyd bod yr arian ychwanegol yma’n cynnig cyfle i gynorthwyo’r Gymraeg trwy gyplysu hynny â’r agenda i wella sgiliau yn ogystal â safon y gofal yn ein gwasanaeth iechyd.
 
“Awgrymwn felly y gallwch wneud y canlynol gyda’r arian ychwanegol:
  • sefydlu canolfannau hwyrddyfodiaid i ddisgyblion (yn seiliedig ar fodel Gwynedd) yn Sir Gaerfyddin, Ceredigion ac Ynys Môn;
  • darparu arian i Ganolfannau Cymraeg i Oedolion fel bod modd darparu cyrsiau Cymraeg ychwanegol i athrawon dan hyfforddiant a gweithwyr iechyd
  • cefnogaeth ychwanegol i fudiadau sy'n darparu gweithgareddau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid.”
Nodiadau
 
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Penri Williams, Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg ar 02920890040 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
 
Rhai o aelodau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg:
CAER, Cronfa Glynd?r, Coleg Cenedlaethol Cenedlaethol, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, CYDAG, Cynghrair Cymunedau Cymru, Cyfeillion y Ddaear, Cymdeithas Alawon Gwerin, Cymdeithas Bob Owen, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas y Cymod, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Merched y Wawr, Mentrau Iaith Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, RhAG, UAC, UCAC, UMCA, UMCB, Urdd Gobaith Cymru