Amserlen Cwricwlwm Newydd i Gymru

8 Chwefror 2017

Amserlen Cwricwlwm Newydd i Gymru
 
Croesawodd UCAC y cyfle i gynnig tystiolaeth i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Llywodraeth yngl?n â pharodrwydd athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn ddiweddar. Tra’n gefnogol iawn o argymhellion Yr Athro Donaldson mae pryder gan UCAC am y modd mae’r argymhellion hyn yn cael eu gweithredu.
 
“Yn sgil cyhoeddiad adroddiad Yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus, mae gennym gyfle, am y tro cyntaf i gael cwricwlwm arbennig i Gymru. Mae hyn yn cael ei groesawu yn fawr gan UCAC ond mae’n bryder mawr i ni bod cymaint o ansicrwydd yn bodoli o fewn ein hysgolion yngl?n â’r datblygiadau hyn,” meddai Ywain Myfyr ar ran UCAC.
 
“Efallai bod yr Ysgolion Arloesi yn bwrw mlaen a’u gwaith yn lwyddiannus, ond mae angen rhannu’r wybodaeth yma fel bod trwch ein hysgolion yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.”
 
“Er mwyn sicrhau’r llwyddiant dyladwy mae’n rhaid wrth y lefel cywir o ariannu er mwyn sicrhau’r hyfforddiant gorau posib i’r gweithlu cyfan. Gallai hyn yn golygu dyddiau hyfforddiant mewn swydd ychwanegol neu rhyddhau athrawon ac arweinwyr o’u hysgolion os am ei wneud yn iawn. Ein pryder yw nad hyn yn digwydd ar hyn o bryd ac mae’r cwricwlwm newydd yn ychwanegu at lwyth gwaith athrawon sydd eisoes yn sylweddol.”
 
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ywain Myfyr ar 01970 639 950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.