Angen gwneud defnydd doeth o ganlyniadau PISA, meddai undeb addysg

3 Tachwedd 2019

Angen gwneud defnydd doeth o ganlyniadau PISA, meddai undeb addysg

Mewn ymateb i ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) a gyhoeddwyd heddiw gan yr OECD, mae undeb addysg UCAC wedi galw ar bawb i wneud defnydd doeth o’r data.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae canlyniadau PISA eleni’n rhoi cyfoeth o wybodaeth i ni ynghylch gwahanol agweddau o’n system addysg. Mae’r penawdau’n rhai cymharol galonogol – a dylid llongyfarch pawb am hynny. Ond rhaid mynd y tu hwnt i’r penawdau hefyd.

“Mae’n ymddangos bod rhai o’r diwygiadau sydd wedi’u gwneud eisoes yn dechrau talu ffordd. Ond rhaid cofio bod y diwygiadau mawr i’r cwricwlwm, y trefniadau asesu a’r systemau atebolrwydd eto i’w gweithredu. Ac mae angen inni ganolbwyntio ar eu gweithredu nhw mewn modd trefnus ac effeithiol dros y blynyddoedd nesaf os ydynt am ein helpu ar ein taith tuag at wella addysg i bawb yng Nghymru.

“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch llesiant disgyblion  - gyda lefelau o ddiflastod a phryder sy’n uwch na’r cyfartaledd rhyngwladol. Yn ogystal, mae ysgolion yng Nghymru wedi bod yn fwy tebygol na’r cyfartaledd o ddweud bod diffygion o ran offer a seilwaith – yn enwedig gwerslyfrau ac adnoddau TGCh – yn llesteirio ar eu hymdrechion.

“Mae UCAC yn credu’n gryf bod angen inni barhau â’r llwybr diwygio sydd eisoes wedi cychwyn, gan sicrhau’r lefelau priodol o gyllid, adnoddau ac amser i athrawon. Ochr yn ochr â hynny, rhaid i ni barhau ac ymestyn y cynlluniau sydd eisoes ar y gweill i ofalu am lesiant pawb o fewn cymunedau ein hysgolion.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.