Angen i Lywodraeth Cymru adolygu pa mor ddigonol yw cyllidebau ysgolion.

20 Mehefin 2018

Angen i Lywodraeth Cymru adolygu pa mor ddigonol yw cyllidebau ysgolion.

Yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad heddiw ar gyllid wedi ei dargedu i wella canlyniadau addysgol plant difreintiedig, meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:

“Mae’r Pwyllgor wedi adnabod y straen ariannol ychwanegol ar ysgolion oherwydd tan-gyllido. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Grant (Grant Datblygu Disgyblion) ar sail y niferoedd cywir o ddisgyblion difreintiedig sydd angen cymorth ar unrhyw adeg. Mae’r argymhelliad i ddarparu cyllid ar gyfer y nifer cywir o ddisgyblion yn un amlwg ond un pwysig; gallai gweithredu hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i gyllidebau ysgolion ac i ddeilliannau disgyblion.”

“Nid yw heriau addysgiadol disgyblion yn newid dros nos pan fydd sefyllfa’r cartref yn gwella,” meddai, “ac mae’r argymhelliad i ymestyn y gefnogaeth dros gyfnod hirach yn allweddol i lwyddiant disgyblion.”

“Mae’n amlwg, hefyd, nad yw’r cyllido ar hyn o bryd wedi ei dargedu’n effeithiol tuag at anghenion plant mewn gofal a phlant sydd wedi eu mabwysiadu ac mae’r Pwyllgor yn adnabod gwelliannau sydd angen eu cyflwyno er lles y disgyblion hyn.”

“Croesawn hefyd y sylw sy’n cael ei roi i ddisgyblion mwy abl a thalentog– a’r angen i gefnogi bob disgybl difreintiedig i gyrraedd ei botensial.”

“Gwyddom fod pwysau ariannol aruthrol ar ysgolion ar hyn o bryd ac, er nad oedd materion cyllidol ehangach ysgolion o fewn Cylch Gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor, mae UCAC yn croesawu’r argymhelliad  y dylai Lywodraeth Cymru ‘barhau i adolygu pa mor ddigonol yw cyllidebau ysgolion’.”

“Mae yna  argyfwng ariannol gwirioneddol yn ein hysgolion ac mae hyn yn sicr o gael effaith ar gyrhaeddiad disgyblion. Mae UCAC yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau cyllido digonol ar gyfer ysgolion yn gyffredinol. “

“Edrychwn ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion sydd yn yr adroddiad.”

DIWEDD

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli  athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.