UCAC yn cynnal ei chynhadledd flynyddol wyneb yn wyneb cyntaf ers tair blynedd ar ddydd Gwener, 10 Mehefin 2022

09 Mehefin 2022 

Bydd UCAC yn croesawu aelodau o Gymru ben baladr i Brifysgol Aberystwyth yfory am ei chynhadledd flynyddol wyneb yn wyneb cyntaf ers tair blynedd. Bydd nifer yn ymuno drwy TEAMS yn ogystal.  

Dywed Dilwyn Roberts Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC - “Fe fydd yn bleser gallu cwrdd â Chynadleddwyr newydd a phrofiadol ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael y cyfle i drafod a gosod polisi UCAC am y flwyddyn sydd i ddod. 

Rydym yn disgwyl sawl trafodaeth fywiog, gyda chynigion yn galw ar y Gynhadledd i ystyried newid enw’r Undeb; estyn gwahoddiad i gymorthyddion ymuno â’r Undeb a gofyn i’r Llywodraeth i ystyried o ddifri eu cynlluniau o ran diwygio’r flwyddyn ysgol. 

Byddwn hefyd yn croesawu Owain Lloyd, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru i’n plith ac edrychwn ymlaen yn fawr at gael ei gwmni a’r cyfle i’w gwestiynu am waith y Gyfarwyddiaeth.  

Nodiadau 

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru. 

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Ioan Rhys Jones: 07807 175833 | Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.