DEALLUSRWYDD ARTIFFISIAL - Hyfforddiant am ddim i athrawon
Mai 2026
Thema prif siaradwr Cynhadledd UCAC yn Nant Gwrtheyrn eleni oedd Daron Harris, athro a chanddo dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu mewn ysgol uwchradd. Mae wedi meithrin arbenigedd dwfn mewn Cyfrifiadureg, Deallusrwydd Artiffisial ac mae ganddo brofiad hefyd mewn arwain prosiectau cymunedol sy’n cysylltu technoleg yn ymarferol â Chwricwlwm Cymru. Ef yw sefydlydd y cwmni Darganfodol, cwmni sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol i addysgwyr ar ddeallusrwydd artiffisial, sut i greu gemau cyfrifiadurol a sut mae rhaglennu. Mae wedi teithio’n helaeth i ddarparu hyfforddiant a gweithdai arloesol i athrawon ac arweinwyr addysg.
Ar hyn o bryd, mae Daron yn Ymgynghorydd Addysg Digidol gyda STEM Learning ar y rhaglen ‘Addysgu Digidol gyda Hyder’ ac yn cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, gan feithrin hyder a dealltwriaeth ymarferwyr o gyfrifiadureg a datblygu sgiliau digidol yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Nod ei gyflwyniad oedd plannu hedyn ym meddyliau’r gynulleidfa ynghylch potensial a heriau AI (Deallusrwydd Artiffisial). Aeth â ni ar daith hanesyddol, er mwyn gosod Deallusrwydd Artiffisial yn ei gyd-destun hanesyddol, cyn mynd ymlaen i drafod y posibiliadau a’r heriau y mae AI yn eu cynnig ar hyn o bryd.
Mae’n amlwg bod y dechnoleg newydd yn datblygu ar gyflymder ac y dylem fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf. Mae’n werth cofio fod hyfforddiant y rhaglen Addysgu Digidol gyda Hyder am ddim i athrawon Cymru. Ewch i’r wefan https://www.stem.org.uk/addysgu-digidol-gyda-hyder i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau ac i archebu lle ar gwrs addas ar gyfer eich anghenion chi.