Croesawu adroddiad ar brinder gwerslyfrau ac adnoddau

19 Gorffennaf 2018

Croesawu adroddiad ar brinder gwerslyfrau ac adnoddau

Mewn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:

“Rydym yn falch iawn bod y Pwyllgor wedi dewis ymchwilio i’r pwnc hwn sydd wedi bod yn achosi problemau gwirioneddol i athrawon a dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ers blynyddoedd.

“Rydyn ni’n gwybod mai amserlen diwygio cymwysterau rhy uchelgeisiol oedd wrth wraidd y problemau enbyd a fu yn ystod y tair blynedd diwethaf – ac mae gwersi i’w nodi yn y cyd-destun hwnnw gyda diwygiadau anferth i’r cwricwlwm ar y ffordd.

“Ond mae’r problemau’n fwy systemig na hynny, ac yn ymwneud â sut mae adnoddau’n cael eu comisiynu, gan bwy, a phryd. Mae’n bryd i ni gael ymagwedd gwbl wahanol at yr holl broses, gan gynnwys llawer mwy o bwyslais ar adnoddau Cymreig wedi’u comisiynu a’u cynhyrchu yng Nghymru.

“Yn y bôn, mae hyn yn fater o sicrhau tegwch a pharch at ddisgyblion ac athrawon ym mhob ysgol yng Nghymru, beth bynnag yw cyfrwng eu hiaith.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.