Cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg Nicky Morgan

23 Medi 2014

Cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Nicky Morgan

Ar Fedi'r 23ain cyfarfu Dilwyn Roberts-Young, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Nicky Morgan. Y cyfarfod ar y cyd gyda'r undebau a chymdeithasau athrawon eraill oedd y cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd sydd yn barhad o'r trafodaethau ddigwyddodd gyda'r Adran Addysg cyn yr haf.

Dros y misoedd nesaf bydd UCAC yn siarad yn gryf ar ran athrawon Cymru ar faterion yn ymwneud â thâl ac amodau gwaith, pwysau gwaith ynghyd ag atebolrwydd. Mae UCAC yn parhau mewn anghydfod gyda San Steffan am drefniadau cyflogau a phensiwn ac yn mynychu cyfres ychwanegol o gyfarfodydd i geisio dwyn yr anghydfod hwnnw i ben.

Mae tal ac amodau gwaith yn cael ei bennu gan lywodraeth San Steffan ond dros y misoedd diwethaf mae'r hinsawdd wleidyddol wedi newid yn syfrdanol. Fwyfwy, mae Llywodraeth Cymru'n dod i gydnabod yr angen i ni gymryd perchnogaeth ar  faterion yn ymwneud â Chymru. Rydym fel Undeb yn mynd i'r afael â phryderon athrawon yn y meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli. Byddwn hefyd yn cynrychioli'n haelodau ar y trafodaethau allweddol sydd yn digwydd yn Llundain er mwyn sicrhau tegwch i athrawon Cymru.

Ewch draw i ardal Ymgyrchoedd y wefan am wybodaeth ychwanegol.